Bu busnesau Aberteifi, Llandysul a Thregaron yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth yma gael ei chynnal gan Cered a’r prif nod oedd i greu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion.

Bu’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd effeithiol o ymgysylltu gyda busnesau’r trefi yma er mwyn gallu hyrwyddo’r gefnogaeth mae Cered yn gallu darparu i fusnesau e.e. llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim Helo Blod.

Dywedodd Siriol Teifi, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n rhywbeth rydym yn gobeithio gallu parhau i wneud yn y dyfodol.”

Cafodd y ffenestri ei beirniadu ar eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.

Dyma’r canlyniadau:

• Aberteifi: 1af – Yum Yums. A chanmoliaeth i Florist on the Farm, UMeltMe, Troi Dalen a Depo.

• Llandysul1af – Nyth Y Robin. Gan roi canmoliaeth uchel i Upholsterer a Cariad Glass.

• Tregaron 1af – Anrhegaron. A chanmoliaeth uchel i Rhiannon, Caron Stores ac Arwyna

Derbyniodd yr enillwyr darian her Cered i’w gadw am flwyddyn yn ogystal â hamper llawn cynnyrch Cymreig. Os hoffech weld y ffenestri wedi eu haddurno ewch draw i dudalennau Cered Menter Iaith Ceredigion ar Facebook - @ceredmenteriaith neu Instagram - menteriaithceredigion.

 

 

28/03/2022