Gyda niferoedd y Coronafeirws yn gostwng ar draws Ceredigion a Chymru, mae Llywodraeth Cymru’n llacio rhai cyfyngiadau’n ofalus ac yn raddol er mwyn dechrau dod â Chymru allan o’r cyfnod clo.

Bydd pob sector yn cael ei ailagor yn raddol, yn ofalus ac yn bwyllog, gan barhau i fod yn wyliadwrus o’r posibilrwydd y gall achosion gynyddu.

Dydd Sadwrn, 13 Mawrth

  • Bydd y gofyniad i ‘aros adref’ yn cael ei lacio, gan gyflwyno gofyniad i aros yn lleol o fewn 5 milltir o’ch cartref yn ei le. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y ffaith y bydd gwahaniaethau ar gyfer ardaloedd mwy gwledig. 
  • Caniateir i hyd at bedwar aelod o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored. Gall hyn fod mewn gerddi preifat neu fannau eraill yn yr awyr agored. Nid yw plant o dan 11 oed yn cael eu cynnwys yn y niferoedd hyn. Mae cynnal pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn berthnasol, ac ni chaniateir cymysgu dan do.
  • Bydd gweithgareddau a chyfleusterau chwaraeon awyr agored yn gallu ailagor. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau golff, cyrtiau pêl-fasged, a chyrtiau tennis. Dim mwy na phedwar person o ddwy aelwyd.
  • Gall ymweliadau â chartrefi gofal ailddechrau. Yng Ngheredigion, bydd ymweliadau â phob cartref gofal yn parhau i gael eu hatal tan ddechrau mis Ebrill, fel y nodir isod. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gydweithrediad y cartrefi gofal preifat sydd hefyd wedi parhau i atal ymweliadau. Mae’r Cyngor wedi cymryd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd, diogelwch a lles ein holl breswylwyr a staff. Mae gofalu am breswylwyr ein cartrefi gofal yn hollbwysig i ni. Mae staff ym mhob Cartref Gofal ledled Ceredigion yn cael prawf COVID-19 bob pythefnos, yn unol â chanllawiau'r llywodraeth. Rydym yn deall pa mor anodd y gallai hyn fod i berthnasau a phreswylwyr, a byddant yn parhau i allu cyfathrebu drwy alwadau ffôn a thrwy gyfleusterau fideogynadledda/galwadau skype.

Dydd Llun, 15 Mawrth

  • Bydd pob disgybl ysgol gynradd a blynyddoedd 11, 12 a 13 yn dychwelyd i’r ysgol. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael gwybod am y trefniadau penodol gan eu hysgol.
  • Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn gallu ailagor ar gyfer apwyntiadau trin gwallt.

Dydd Mercher, 17 Mawrth

  • Bydd y Gwasanaeth Clicio a Chasglu Llyfrgelloedd yn ail-ddechrau.

Dydd Llun, 22 Mawrth

  • Bydd blwyddyn 10 yn dychwelyd i’r ysgol. Efallai y bydd rhai disgyblion unigol ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i ymweld â'r ysgol i gael sesiwn dal i fyny byr. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael gwybod am y trefniadau penodol gan eu hysgol.
  • Bydd siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol a bydd y cyfyngiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu codi.
  • Bydd canolfannau garddio yn gallu ailagor.

Dydd Sadwrn, 27 Mawrth

  • Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, bydd y cyfyngiadau aros lleol yn cael eu codi i ganiatáu i bobl deithio yng Nghymru.
  • Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, bydd llety gwyliau hunangynhwysol yn ailagor ar gyfer un aelwyd.
  • Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, bydd gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer plant yn cael ailddechrau.

Dydd Iau, 01 Ebrill

  • Caniateir ymweliadau yng Nghartrefi Gofal Preswyl y Cyngor. Bydd pob preswylydd yn gallu nodi un ymwelydd dynodedig ar gyfer un ymweliad 30 munud o hyd bob wythnos. Bydd yr holl ymweliadau cychwynnol yn cael eu cynnal yn y podiau/cyfleusterau ymweld. Bydd yn ofynnol i bob ymwelydd lenwi holiadur iechyd cyn pob ymweliad. Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at bob teulu ynglŷn â sut i drefnu ymweliad.

Dydd Llun, 12 Ebrill

  • Os bydd yr amodau iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol, bydd pob siop a phob gwasanaeth cyswllt agos yn gallu ailagor.

Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd £150 miliwn ychwanegol ar gael tan ddiwedd mis Mawrth i gefnogi’r busnesau hynny nad ydynt yn cael agor eto. Bydd yr arian ychwanegol yn golygu y bydd busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, a busnesau manwerthu nad ydynt hanfodol, yn gymwys i gael taliad ychwanegol o hyd at £5,000 os ydynt yn talu ardrethi annomestig.

Nid dyma’r amser i ymlacio

Nid yw’r Coronafeirws wedi diflannu. Gadewch i ni aros yn ddiogel a pharhau i fod yn wyliadwrus. Gall yr holl ddyddiadau hyn yn y dyfodol newid, yn unol â chyfraddau trosglwyddo, cyflwyno brechlynnau ac amrywiolynnau.

Mae mor bwysig ag erioed ein bod ni i gyd yn cadw pellter diogel, yn golchi ein dwylo'n rheolaidd ac yn gwisgo masg pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.

Os oes gennych unrhyw un o symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn ydynt, mae’n rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, a’r unig adeg y dylech adael eich cartref yw i gael prawf. Byddwch yn ymwybodol o symptomau eraill yn gynnar, megis cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw. Gellir archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r coronafeirws ar gael ar dudalennau gwe coronafeirws y Cyngor. 

Diolch am gadw’n lleol i gadw Ceredigion yn ddiogel.

12/03/2021