Mae Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron arfaethedig yn Nhregaron wedi cymryd cam pwysig yn nes i gael ei adeiladu ar ôl arwyddo a selio'r Cytundeb Datblygu rhwng partneriaid.

Mae'r cynllun pwysig yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (CTCC) â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cytundeb Datblygu yn nodi'r trefniadau rhwng y partneriaid, gan amlinellu sut y caiff y cynllun ei adeiladu a'i reoli yn y tymor hir.

Llofnododd llawer o’r llofnodwyr y Cytundeb Datblygu ar ôl cyfarfod o Fwrdd Prosiect Cylch Caron. Maent yn cynnwys Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol ar gyfer BIPHDd; Y Cynghorydd Hag Harris, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion; Richard Martin, Aelod Bwrdd CTCC a Charles Brotherton, Ysgrifennydd y Cwmni, CTCC.

Mae llofnodwyr eraill y Cytundeb Datblygu yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol ac yn Is-gadeirydd BIPHDd, Steve Moore a Judith Hardisty; Morag Bailey, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Risg CTCC. Llofnodwyd y gytundeb hefyd gan Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu Cyngor Sir Ceredigion, a Swyddog Monitro yr awdurdod, Elin Prysor.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron, “Ar ôl llawer o waith caled ac ymroddiad gan yr holl bartneriaid, mae'n bleser gweld y Cytundeb Datblygu yn cael ei arwyddo a'i selio. Mae hyn wedi cymryd amser i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sydd wedi cael eu cytuno gan y partneriaid.”

“Gallwn nawr barhau i weithio yn galed i gyrraedd y cerrig milltir allweddol nesaf. Un ohonynt yw cyflwyno'r achos busnes terfynol i Lywodraeth Cymru a gobeithio y caiff ei gymeradwyo cyn gynted â phosib er mwyn caniatáu i'r gwaith adeiladu ddechrau.”

Bydd Cylch Caron yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio a gofal cymdeithasol cymunedol, ynghyd â 34 o fflatiau gofal ychwanegol a chwe uned iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

13/03/2019