Mae parc a adnabyddir fel Parc Sgwâr yng nghanol Aberaeron wedi cael ei ddynodi fel Cae Canmlwyddiant ac wedi ei enwi fel Cae Canmlwyddiant Ceredigion Centenary Field - Cae Sgwâr / Square Field, Aberaeron.

Trwy ennill statws Cae Canmlwyddiant, bydd yn cael ei warchod mewn bytholrwydd i anrhydeddu’r miliynau a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cae Canmlwyddiant Ceredigion Centenary Field - Cae Sgwâr / Square Field, Aberaeron yw’r Cae Canmlwyddiant cyntaf yng Ngheredigion.

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Paul Hinge, “Dw i wrth fy modd bod cais Cyngor Tref Aberaeron i gyflwyno’r lle gwych gwyrdd yma fel Cae Canmlwyddiant wedi cael ei dderbyn gan Meysydd Chwarae Cymru, a bod y Cyngor Sir wedi gallu cefnogi’r cais. Mae’n talu teyrnged bwysig i’r rheiny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys llawer o ddynion ifanc o Geredigion a aeth i ryfel, ond heb ddychwelyd.

Mae hwn wedi bod yn siwrnai ddiddorol ac un, fel yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog a chyn-filwr, dw i’n falch i gefnogi.”

Dadorchuddiwyd plac yn nodi’r statws gan Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards.

Dywedodd Maer Aberaeron a’r Aelod Lleol, y Cynghorydd Elizabeth Evans, “Mae trigolion Aberaeron yn haeddiannol falch o statws newydd Cae Sgwâr fel Cae Canmlwyddiant dynodedig Ceredigion. Mae ganddo hanes balch o fod yn gae chwarae'r dref a does dim cymuned yng Ngheredigion sydd â phlant heb chwarae arno ar ryw adeg. Mae’n goffâd addas yng nghanmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac wrth i ni gofio’r gorffennol, rydym hefyd yn edrych i’r dyfodol a statws newydd Cae Sgwâr o fod wedi ei warchod mewn bytholrwydd fel cae chwarae, diolch i Ymddiriedolaeth Caeau Canmlwyddiant.”

Cynhaliwyd seremoni fer i ddadorchuddio’r plac ble siaradodd Miss Edwards, y Cynghorydd Hinge a’r Cynghorydd Evans yn ogystal â Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Hag Harris a Chadeirydd Meysydd Chwarae Cymru, Brynmor Williams.

12/10/2018