Roedd cyhoeddi Strategaeth Iaith a phenodi Tiwtor Cymraeg Gwaith ymysg y prif gyflawniadau yn 2018-2019 yn ôl adroddiad a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod Cabinet ar 11 Mehefin.

Mae Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2018-19 yn amlinellu cynnydd y cyngor tuag at gwrdd â gofynion Safonau’r Gymraeg. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion i gydymffurfio ȃ Safonau’r Iaith Gymraeg er mwyn gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg y cyngor.

Mae’r adroddiad yn dangos bod 63% o staff y cyngor yn medru cynnal sgwrs o ddydd i ddydd yn Gymraeg, a dim ond 4% o’r gweithlu sydd heb unrhyw sgiliau iaith Gymraeg. Mae 129 o aelodau staff wedi derbyn cyfle i ddysgu neu wella eu sgiliau iaith ac mae 30 o barau Ffrind Iaith yn cwrdd yn anffurfiol yn ogystal â Chlwb Cinio. Mae’r clwb cinio yn rhoi’r cyfle i siaradwyr rhugl a dysgwyr ddod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd y cyngor a’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg. Dywedodd, “Mae’r adroddiad yn dangos llawer o gynnydd cadarnhaol wrth weithredu’r Safonau Iaith, ac yn tanlinellu ymdrechion y cyngor i gynnig cyfleoedd i staff ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle, ac i ddysgu’r Gymraeg os ydynt yn dymuno.”

“Rydym yn cymryd ein dyletswyddau o dan drefn Safonau’r Gymraeg o ddifri ac rydym yn anelu at wneud gwelliannau parhaus yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae llawer o’n trigolion yn disgwyl gwasanaeth yn eu mamiaith ac rydym yn benderfynol o ddarparu hynny.”

Mae’r adroddiad yn nodi’r camau sydd wedi’u cymryd er mwyn cydymffurfio â gofynion y safonau. Manylir ar safonau cyflenwi gwasanaethau; llunio polisi; gweithredu; hybu a chadw cofnodion yn yr adroddiad.

Mae’r Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2018-19 ar gael ar wefan y cyngor ar http://www.ceredigion.gov.uk/media/5526/adroddiad-blynyddol-safonaur-gymraeg-2018-19.pdf. Os hoffech gael copi caled o’r adroddiad, cewch gopi drwy unrhyw un o dderbynfeydd y cyngor neu lyfrgelloedd cyhoeddus.

11/06/2019