Ar nos Wener, 27 Ebrill am 8yh bydd sioe wahanol i’r arfer yn Theatr Felinfach o’r enw Cabarela. Noson anffurfiol bydd hyn, yn cynnwys amryw o artistiaid hwyliog yn cael eu cyflwyno gan fersiwn Cymru o '4 poofs and a piano' ; 3 chwaer a deuawd jazz! Mae’r gair Cabarela yn gyfuniad o chabaret a Sorela; grŵp acapella gwerin Cymraeg sy’n cynnwys tair chwaer o Aberystwyth.

Ar ôl llwyddiant ysgubol Cabarela 'Steddfod Môn, mae Cabarela yn ymestyn ei hiwmor ledled Cymru ac yn anelu nawr am Geredigion. Bydd Sorela, gyda’i harmoni swynol, yn cyflwyno cyfuniad eclectig o artistiaid ar gyfer noson arbennig o hiwmor, ffraethineb a dychan trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd perfformiadau’r noson yn cynnwys: Frenhines y sgrîn fach, Maggi Noggi; Lleisiau trydanol y Difas a'r Diceds, sef Elain Llwyd, Ffion Emyr a Mari Wyn a dychan cerddorol o Hywel Pitts.

Peidiwch â cholli mas ar Cabarela cyntaf Ceredigion! Mae’r tocynnau yn £20 ac ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein at theatrfelinfach.cymru. Mae’r noson yn anaddas i blant.

 

17/04/2018