Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion (GIC) wedi llwyddo i ddefnyddio cyllid i ddatblygu'r ardd yng Nghanolfan Ieuenctid Aberaeron.

Penderfynodd y bobl ifanc sy'n mynychu'r clwb ieuenctid eu bod am droi'r ardd yn le diogel i bawb fwynhau eto. Roedd yr ardd wedi'i gadael am gyfnod o amser ac yn cael ei hystyried yn rhy beryglus i aelodau'r clwb ieuenctid fwynhau. Roedd hyn yn rhannol oherwydd tywydd gwael dros y blynyddoedd ac achosion o fandaliaeth. Felly, roedd yr ardd angen gwaith trwsio a chynnal sylweddol.

Er mwyn ceisio cael cymorth ariannol i helpu i ddatblygu'r lle i fod yn ddiogel a chynhwysol, llwyddodd GIC i ennill Grant dan Arweiniad Ieuenctid wrth CAVO trwy gais fideo a ffilmiodd aelodau'r clwb ieuenctid eu hunain. Hefyd, derbyniodd y clwb ieuenctid rodd ariannol tuag at brosiect yr ardd i gofio am Mathew Evans, aelod hirdymor o’r clwb ieuenctid a fu farw mewn damwain car yn 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Mae’n galonogol iawn i glywed am y bobl ifanc yma yn penderfynu eu bod am ddatblygu’r ardd a’i wneud yn hygyrch a digon o le i bawb fedru ei fwynhau. Mae ardaloedd yn yr awyr agored yn bwysig iawn i iechyd a lles bawb, a nawr mae gan Wasanaeth Ieuenctid Aberaeron a’r gymuned ardd i fwynhau.”

Bu’r bobl ifanc yn helpu i gael gwared a hen falurion a deunyddiau, disodli'r hen ddeciau a grisiau, a gosod dros 5 tunnell o raean a slabiau. At hynny, mae coed a blodau newydd wedi'u plannu gyda bocsys adar wedi'u creu a fydd yn cael eu rhoi yn yr ardd ynghyd ag adnoddau synhwyraidd eraill.

Mae'r prosiect wedi cael ei arwain gan yr ieuenctid o'r dechrau, gyda’r Gweithiwr Ieuenctid Allgymorth Rebecca Williams yn cydlynu ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o wahanol grwpiau a phobl. Mae'r prosiect wedi gweithio mewn partneriaeth â Hyfforddiant Ceredigion Training sy’n ddarparwr dysgu yn y gweithle sy'n cynnig ystod o gyrsiau galwedigaethol i baratoi pobl o bob oed ar gyfer gwaith trwy ddarparu hyfforddiant sgiliau iddynt. Mae'r prosiect wedi ymgysylltu ag aelodau'r clwb ieuenctid, pobl ifanc sy'n mynychu darpariaeth y Tîm Anabledd Plant, Canolfan Aeron a disgyblion cwricwlwm amgen a gwirfoddolwyr ifanc.

Mae 44 o bobl ifanc wedi gwirfoddoli a chefnogi’r prosiect ers mis Ionawr 2018, gyda 30% o'r cyfranogwyr hynny yn parhau i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli. Dywedodd Prif Swyddog Ieuenctid GIC, Gethin Jones, “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwych i bobl ifanc gael eu grymuso a chymryd rhan mewn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol. Mae wedi mynd trwy drawsnewidiad rhyfeddol. Wrth symud ymlaen, bydd yn cael effaith mawr gan y byddant yn gallu mwynhau'r gofod yn ddiogel sy’n gyffrous iawn. Bydd hefyd yn rhoi mwy o gyfle i'r ganolfan ymgysylltu â'r gymuned a chaniatáu i grwpiau eraill ymweld â'r ardal a mwynhau'r gofod. Hoffwn ddiolch am y rhoddion caredig ac i bawb sydd wedi cefnogi'r prosiect i'w wneud yn bosib.”

Mae'r ardd bron yn barod ac yn derbyn y manion olaf terfynol i'w wneud i edrych yn fywiog ac yn apelgar i holl aelodau'r gymuned. Bwriedir cynnal noson agored ar ddydd Iau, 3 Mai rhwng 6yh a 7:30yh lle bydd yr ardd yn cael ei agor yn swyddogol. Estynnir croeso cynnes i bawb o'r ardal i fwynhau’r ardd, a chael bwyd a lluniaeth yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i dudalennau Facebook neu Twitter GIC ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

Llun: Pobl ifanc yn gweithio yn yr ardd. 

 

25/04/2018