Bydd gofyn, cyn hir, i gartrefi ledled Ceredigion gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r cyfrifiad gael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi'r cyfrifiad ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu dyfeisiau tabled.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cyfrifiad yn ein helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel addysg, gofal iechyd a chymdeithasol, diogelu’r cyhoedd a thrafnidiaeth. Felly mae’n bwysig iawn bod pawb yng Ngheredigion yn cymryd rhan i sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu gwasanaethu’n iawn. Bydd cael y gyfradd ymateb orau bosibl ar gyfer y cyfrifiad yn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar ddata cywir o ansawdd uchel, ac yn adlewyrchu anghenion preswylwyr Ceredigion dros y ddeg mlynedd nesaf.”

Dywedodd Iain Bell, Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan a pham ein bod wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar-lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.”

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad yn cael ei gynnal ar 21 Mawrth 2021, ond bydd cartrefi ledled y wlad yn cael llythyrau â chodau ar-lein a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan o ddechrau mis Mawrth.

Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" ar gael er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar-lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyfrifiad

05/01/2021