Mae bwrsari i gefnogi pobl ifanc rhwng 11-25 oed i'w helpu gyda'u dyheadau ar gyfer y dyfodol, wedi cael ei wobrwyo i bedwar ymgeisydd llwyddiannus am eu syniadau arloesol. Bydd y bwrsariau yn cael eu rhoi yn noson wobrwyo Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar nos Fawrth, 9 Ebrill yn Theatr Felinfach.

Y pedwar ymgeisydd llwyddiannus yw Joseph Griffiths, Owen Schroder, Mari Roberts ac Oliver James. Fe'u gwobrwywyd a’r bwrsari am eu syniadau cadarnhaol a allai effeithio ar eu bywydau a bywydau pobl ifanc eraill yng Ngheredigion.

Dyfarnwyd £200 i Joseph o Lechryd er mwyn iddo ddilyn ei yrfa fel achubwr bywyd. Dyfarnwyd £150 i Owen o Lambed i brynu offer marchnata i lansio ei fusnes troi coed. Dyfarnwyd £150 i Mari o Landysul er mwyn helpu iddi brynu adnoddau ac offer i gyflwyno gweithdai Jyngl mewn ysgolion cynradd ar draws Geredigion. Mae gweithdai Jyngl yn seiliedig ar blanhigion a llês, gan ddod â natur i'r ystafell ddosbarth. Dyfarnwyd £150 i Oliver o Landudoch er mwyn helpu iddo brynu adnoddau cymorth cyntaf, i gefnogi ei wirfoddoli fel cynorthwyydd cymorth cyntaf mewn clybiau chwaraeon lleol.

Roedd y bwrsari, a ddarparwyd gan West Wales Holiday Cottages a chyflwnwyd gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc wneud cais am swm o hyd at £600.

Meddai Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Gwion Bowen, “Rydym yn ddiolchgar iawn i West Wales Holiday Cottages am gynnig y cyfle gwerthfawr hwn i bobl ifanc yng Ngheredigion. Fel ni, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod bod angen ychydig o gymorth ychwanegol ar lawer o bobl ifanc yng Ngheredigion er mwyn iddynt gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth neu i gychwyn busnes eu hunain. Edrychwn ymlaen at wobrwyo’r pedwar cais llwyddiannus yn ein noson wobrwyo flynyddol.”

Derbyniwyd cyfanswm o 35 cais, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau hyfforddi. Edrychodd y Fforwm Ieuenctid Ceredigion yn fanwl ar y ceisiadau cyn dewis y pedwar cais llwyddiannus. Panel o bobl ifanc yw’r fforwm sy’n hanu o bob cwr o Geredigion ac sy’n gwneud defnydd o Wasanaeth Ieuenctid y sir.

02/04/2019