Bydd perfformiad epig, anhygoel o Bedwaredd Cainc y Mabinogi yn Theatr Felinfach ar 11 Ebrill am 7:30yh. Yn wefreiddiol, doniol, grymus ac yn farddonol am yn ail, mae Breuddwydio Cae'r Nos yn cael ei hadrodd gan un o storïwyr mwyaf cyfareddol Cymru – Michael Harvey gyda cherddoriaeth fyw hynod swynol.

Mae’r dewin a’r cyfarwydd Gwydion yn achosi rhyfel rhwng ei ewyrth, brenin Gwynedd - ac mae brenin Dyfed yn gollwng canlyniadau dychrynllyd ar bawb. Mae Blodeuwedd, a grëwyd o flodau, yn gorfod dewis rhwng chwant a dyletswydd. Dewch i brofi byd hynod y stori hon sy’n llawn bywyd, anifeiliaid, pobl a hyd yn oed sêr y nos, pob un yn creu a datod straeon ein byd.

Ceir gwrthdrawiad rhwng anrhydedd, trawsnewid, hud a lledrith yn y sioe gyfareddol newydd hon. Mae’r chwedlau a’r gerddoriaeth yn bywiocáu’n hanesion hynafol o Bedwaredd Cainc y Mabinogi.

Y tîm tu ôl llwyfannu’r sioe yw Adverse Camber, yr un tîm creadigol a oedd tu ôl i’r sioe hynod boblogaidd ‘Hunting the Giant’s Daughter’. Bydd y perfformiad yn mesmereiddio ac yn dod â lleisiau a thirweddau hynafol yn fyw.

Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys themâu addas i oedolion a all beri gofid i rai. Canllaw oedran 12 + .

Pris y tocynnau yw £10 i oedolion, £9 i aelodau ac £8 i blant. Tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar https://theatrfelinfach.cymru/index.php/en/.

22/03/2019