Derbyniwyd dros 200 o atgyfeiriadau ac mae 88 o unigolion wedi derbyn cymorth o’r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy yng Ngheredigion yn ei 12 mis cyntaf. Dechreuodd y prosiect yng Ngheredigion yn Ebrill 2018 gyda dau Fentor a Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr. Maent yn cynorthwyo pobl i wella’u sgiliau cyflogadwyedd. Dylai hyn yn ei dro eu helpu i un ai gael gwaith, neu i gael gwell gwaith.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a’i redeg gan Gyngor Sir Ceredigion, ac mae’n cynorthwyo unigolion 16 oed a throsodd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o fyw mewn tlodi, ar draws Ceredigion a ledled Cymru gyfan. Gall y cyfranogwyr fod mewn gwaith ond yn byw mewn tlodi, yn ddi-waith, yn byw ar isafswm cyflog neu’n cael trafferth talu costau misol sylfaenol ar gontractau dim oriau achlysurol.

Mae’r mentoriaid yn darparu cymorth un i un i gyfranogwyr, i’w helpu i ysgrifennu eu CV, cynnal cyfweliadau ffug, uwchraddio’u sgiliau, yn ogystal ag ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant, gan gynnwys help i ddechrau eu busnesau eu hunain. Mae’r tîm yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn dros y 12 mis nesaf, er mwyn helpu trigolion Ceredigion a lleihau tlodi.

Dywedodd un cyfranogwr, “Rwyf am ddiolch i chi a’r tîm am fy helpu drwy hyn, ac wrth gwrs am ei ariannu! Diolch o galon i fy mentor am roi lan â fi. Mae hi wedi bod yn wych. Gallaf gynnal fy nheulu nawr ar ôl cael fy hyder yn ôl, ac mae gen i incwm rheolaidd ar ôl bod mas o waith am sbel”.

Gyda help y prosiect, mae 22 o bobl wedi cael gwaith ac mae eraill wedi cael lleoliadau gwirfoddoli, cyfleoedd gwaith neu hyfforddiant gyda thâl. Mae’r cyrsiau hyfforddi’n amrywio o gymwysterau Cymorth Cyntaf, adwerthu neu ofal iechyd, cardiau diogelwch y diwydiant adeiladu, neu hyd yn oed hyfforddiant gyrru cerbydau HGV.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Gall y prosiect helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau profiad gwaith gyda thâl a chyfleoedd gwaith, yn ogystal â ffurfio cysylltiadau da â chyflogwyr lleol. Mae cymorth ar gael hefyd i bobl sydd mewn gwaith ond sy’n byw mewn tlodi, felly os ydych chi am wella’ch sgiliau er mwyn cael swydd sy’n talu’n well, mi allai Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi.”

Os ydych chi’n meddwl y gallai’r prosiect eich helpu chi, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01545 574193 neu e-bostiwch cfwp@ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal, os ydych chi’n gyflogwr, a bod gennych chi unrhyw gyfleoedd i gyfranogwyr wneud profiad gwaith, neu weithio gyda thâl (wedi’u hariannu gan Cymunedau am Waith a Mwy) cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

12/07/2019