Mae cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth newydd i helpu tenantiaid sy’n ei chael hi’n anodd i dalu ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i’r coronafeirws wedi lawnsio.

Cyhoeddod Llywodraeth Cymru y cynllun gwerth £8 miliwn sef yr un cyntaf o’i fath yn y DU. Bydd y cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth ar gael i denantiaid y sector rhentu preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent, a’r rhai a allai ei chael hi’n anodd talu rhent y misoedd i ddod o ganlyniad i’r coronafeirws hefyd.

Bydd y cynllun yn cynnig benthyciadau ar gyfradd ganrannol flynyddol (APR) o 1%, a gaiff eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid neu asiantiaid i’w had-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd. Yn sgil hynny fe fydd yn darparu dull fforddiadwy o dalu ôl-ddyledion rhent neu rent misoedd i ddod, gan leihau’r risg o droi tenantiaid allan a’u gwneud yn ddigartref. Unwaith y bydd tenant wedi gwneud cais am y benthyciad bydd yn gallu cael cymorth a chyngor gwasanaethau i’w helpu i reoli ei sefyllfa ariannol.

Caiff y benthyciadau eu rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a’u darparu gan saith Undeb Credyd ledled Cymru.

Yn y lle cyntaf, bydd yr Undebau Credyd yn gweithio gyda thenantiaid i ganfod a ydynt yn gymwys i gael y cynllun benthyciadau a faint y gallent fforddio ei ad-dalu. Os yw’r cynllun yn addas i’r tenant, yna bydd yr Undebau Credyd yn rhoi cymorth iddynt drwy gydol tymor ad-dalu’r benthyciad.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Undebau Credyd Cymru. Mae’r cyfnod y gellir gwneud cais am y cynllun ar agor tan 31 Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth ariannol i Gyngor ar Bopeth gyflwyno’r Cynllun Rhybudd Cynnar ar gyfer ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill aelwydydd i denantiaid. Os ydych chi yn tenant preifat ac yn cael trafferth gyda rhent neu dyledion eraill, cyswllt a Cyngor ar Bopeth Cymru ar 0300 330 21 77 i siarad i arbennigwyr dyled.

21/10/2020