Bydd y Faner Las yn hedfan dros bump o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion dros yr haf hwn. Mae traethau’r Borth, Gogledd Aberystwyth, Harbwr Cei Newydd, Llangrannog a Thresaith unwaith eto wedi eu gwobrwyo â’r Faner Las ar gyfer 2018. Yn ogystal, mae traethau Ceredigion wedi ennill 4 Gwobr Arfordir Glas a 13 Gwobr Glan Môr.

Mae’n rhaid i draethau Baner Las ac Arfordir Glas gyrraedd y safon uchaf o ran dŵr ymdrochi ac maent hefyd yn cael eu dyfarnu am ddarparu cyfleusterau o safon i ddefnyddwyr traeth ac am reolaeth dda a diogelwch defnyddwyr y traeth. Mae’r wobr Glan Môr yn cydnabod traethau a chanddynt gyfleusterau, safon dŵr, cyfarpar diogelwch a rheolaeth dda.

Mae’r Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Thwristiaeth wedi croesawu’r cyhoeddiad am wobrau eleni: “Unwaith eto, mae traethau Ceredigion yn cael eu hystyried gyda’r gorau, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Mae’r gwobrau yn farc o safon ac mae’n wych gweld y Faner Las a baner Gwobr Glan Môr yn hedfan dros ein traethau ymdrochi mwyaf poblogaidd eleni eto. Er bod arfordir a thraethau Ceredigion yn boblogaidd trwy gydol y flwyddyn, mae derbyn y gwobrau yn ddechrau gwych i’r tymor gwyliau traddodiadol ac edrychwn ymlaen at haf prysur.”

Gwobrwywyd y traethau canlynol â gwobrwyon arfordirol 2018:

Y Faner Las
Borth, Traeth y Gogledd Aberystwyth, Traeth Harbwr Cei Newydd, Llangrannog, Tresaith

Gwobr Glan Môr
Borth, Clarach, Traeth y Gogledd Aberystwyth, Traeth y De Aberystwyth, Llanrhystud, Traeth Harbwr Cei Newydd, Traeth y Dolau Cei Newydd, Llangrannog, Cilborth - Llangrannog, Tresaith, Aberporth, Mwnt, Penbryn

Gwobr Yr Arfordir Glas
Llanrhystud, Mwnt, Penbryn, Cilborth - Llangrannog

Mae gwobrau arfordirol Cymru yn cael eu gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus.

17/05/2018