Yn sgil y Rhybudd Tywydd Ambr gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Storm Eunice ddydd Gwener, ac yn dilyn trafodaethau â Fforwm amlasiantaeth Cydnerthedd Lleol Dyfed Powys (LRF), mae penderfyniad wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion i gau’r gwasanaethau canlynol yng Ngheredigion er mwyn diogelu trigolion a staff y Cyngor, a chyfyngu ar deithiau diangen (ac eithrio staff a fydd yn delio â'r argyfwng):
- Canolfannau hamdden a phyllau nofio y Cyngor. Bydd y Canolfannau Hamdden yn cael eu defnyddio fel canolfannau gorffwys os bydd angen.
- Amgueddfa Ceredigion a Theatr Felinfach.
- Llyfrgelloedd Cyngor.
- Gwasanaethau Casglu Gwastraff. Gofynnir i drigolion ailgyflwyno eu gwastraff ar y diwrnod casglu nesaf a drefnwyd.
- Safleoedd Gwastraff Catref.
Bydd holl ysgolion Ceredigion yn darparu dysgu o bell; bydd pob adeilad ysgol ynghau.
Bydd strydoedd arfordirol, gan gynnwys prom Aberystwyth a Pen Cei Aberaeron ar gau yn ystod y cyfnod.
Bydd y Gwasanaethau Gofal yn parhau. Fodd bynnag, efallai y bydd yna broblemau yn wynebu staff gofal cartref a fydd yn teithio i ymweld â defnyddwyr gwasanaeth.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: Met Office a chadwch olwg ar wefan CNC am y rhybuddion llifogydd diweddaraf.
Mae yna gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i Geredigion yn cael eu cyhoeddi yma: Storm Eunice, Ceredigion
17/02/2022