Yn ystod yr Hydref fe fydd Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cefnogi criw o drigolion Llan-non i gynnal cyfres o weithgareddau amgylcheddol cyfrwng Cymraeg dan y faner Arwyr yr Arfordir. Bydd y rhaglen o weithgareddau yn cychwyn trwy gasglu plastig oddi ar draeth y pentref ar ddydd Sadwrn, 29 Medi.

Lansiwyd Arwyr yr Arfordir yn 2017 pryd bu Cered yn gweithio gyda’r gymuned ar ymgyrch debyg i gasglu plastig. Ar y pryd hwnnw, bu dros 20 o drigolion lleol ynghlwm a’r gweithgaredd gan gynnwys nifer o deuluoedd a oedd yn awyddus i gymdeithasu yn Gymraeg, dysgu am yr amgylchedd ac edrych ar ôl eu cymuned. Y bwriad eleni yw datblygu’r syniad ymhellach gan drefnu gweithgareddau amgylcheddol ychwanegol ar dri dydd Sadwrn olaf misoedd Medi, Hydref a Thachwedd.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Mae’n wych gweld cymaint o frwdfrydedd ymysg trigolion Llan-non sydd am drefnu rhywbeth er mwyn ymateb yn gadarnhaol i’r her byd-eang o lygredd plastig yn ein moroedd ac i’r her lleol o gynnal bwrlwm o weithgareddau Cymraeg trwy gydol y flwyddyn yn Llan-non. Gobeithio fydd y tywydd o’n plaid!”

Bydd croeso i bawb ymuno yn y digwyddiad cyntaf am 3.00yp ar 29 Medi ym maes parcio Traeth Llan-non ger Gwesty Plas-Morfa. Cyn dechrau ar y gwaith o gasglu, bydd Steffan Rees o Cered yn rhoi cyflwyniad ar effaith plastig ar yr amgylchedd er mwyn codi’r ymwybyddiaeth o’r angen i leihau y defnydd o blastig ac ailgylchu, cyn dosbarthu cyfarpar casglu sbwriel Cadwch Cymru’n Daclus. Bydd gweithgaredd penodol i blant fel rhan o’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Plant a Diwylliant, “Rwy’n canmol trigolion Llan-non am ddod at ei gilydd i daclo materion llygredd plastig yn eu cymunedau gan hefyd ddefnyddio’r cyfle i ysgogi trigolion i gyfathrebu drwy’r Gymraeg. Gall hyn fod i siaradwyr rhugl, dysgwyr Cymraeg neu y rheiny sydd newydd symud i’r ardal ac yn gobeithio dysgu rhai ymadroddion allweddol. Mae gwaith cadarnhaol Cered ar draws y sir i annog mwy o gymunedau a busnesau i ddechrau sgwrs yn y Gymraeg yn ffantastig, gan bod y Gymraeg yn iaith, ond hefyd yn ddiwylliant sy’n gallu cryfhau cymunedau a’i fwynhau gan bawb.”

Bydd Arwyr yr Arfordir yn cyfarfod eto ar ddydd Sadwrn, 27 Hydref a dydd Sadwrn, 24 Tachwedd, gyda manylion y gweithgareddau i ddilyn.

 

21/09/2018