Mae’r Cyngor wedi cael £100,800 o Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru er mwyn ariannu gwaith cyfalaf mewn pedwar maes chwarae yng Ngheredigion. Ar 19 Mehefin, awdurdododd Cabinet y Cyngor dechreuad y prosiect.

Y pedwar maes chwarae yw Cae Chwarae Ponterwyd, Cyrtiau Tenis Llanon, Cae Chwarae Llanddewi Brefi a Pharc Sgrialu Aberteifi. Bydd yr arian yn gwella cyfleoedd chwarae a hamdden yn yr ardaloedd yma.

Amcangyfrir bydd y gwaith yn costio £126,000, gyda’r grant yn cyfrannu 80% o’r swm. Bydd y cynghorau tref a chymuned yn cyfrannu’r 20% sydd yn weddill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae cyfleoedd chwarae o safon a diogel yn bwysig i blant y sir yn ogystal â’u rhieni. Roedd hi’n bleser bod y Cabinet yn gallu awdurdodi prosiect o’r fath a dw i’n siŵr bydd y meysydd chwarae yn cael cryn dipyn o ddefnydd ar ôl iddynt gael eu hadnewyddu.”

Gallai’r prosiect ddechrau o 18 Gorffennaf 2018 ymlaen a byddai’n rhaid iddo ddod i ben erbyn 30 Ebrill 2019.

21/06/2018