Bydd busnesau bwyd a diod ymysg y rhai sy'n gallu gwneud cais i gael lle ar Bromenâd Aberystwyth yr haf hwn. Cymeradwyodd Cabinet y cyngor gynigion i dendro rhannau o'r promenâd a'r traeth am gyfnod prawf yn ystod haf 2019.

Ar ôl trafod newidiadau i ddefnydd cyfyngedig rhan o'r promenâd, mae'r cyngor wedi derbyn nifer o ymholiadau newydd ar gyfer defnydd hir tymor o'r prom ar gyfer mannau eistedd a gwerthu bwyd a diod. Cafwyd ymholiadau hefyd am werthu bwyd môr; fan bwyd a gwerthu hufen iâ ar y traeth.

Bydd y cynnig newydd yn cael ei dreialu yn haf 2019 a bydd yn llywio strategaeth hir dymor ar gyfer hyrwyddo defnyddiau newydd o fewn trefi'r sir.

Bydd busnesau yn gallu cyflwyno tendrau i ddefnyddio rhannau o'r Promenâd yn Aberystwyth ar gyfer bwyd, diod a seddi. Hoffai'r cyngor weld cyflwyniadau o safon sy'n hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a chynnyrch lleol, a bod hen draddodiad diwylliannol hanesyddol Cymru o’r Promenâd yn cael ei gadw cyn belled ag y bo modd.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Hoffwn ddiolch i swyddogion y cyngor a ddaeth â'r cynigion at ei gilydd yn gyflym i wneud yn siŵr y gallwn gynnig cyfleoedd gwych i wneud y prom yn lle gwell byth i ymweld â hi yr haf hwn. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi economi Ceredigion, ac mae'r penderfyniad hwn yn ein helpu i wneud hynny.”

Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb mewn tendro am le yr haf hwn gysylltu â Swyddog Rheoli a Datblygu Prosiectau'r cyngor, Alan Haird ar 01545 572 453.

12/06/2019