Mae Datganiad o Gyfrifon Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei gymeradwyo yn dilyn adroddiad gan Archwilio Cymru.

Caiff cyfrifon y Cyngor eu hadolygu’n flynyddol gan Archwilio Cymru i sicrhau eu bod yn gywir ac yn deg. Mae adroddiad y flwyddyn hon yn amlygu perfformiad cadarnhaol mewn perthynas â rheolaeth ariannol y Cyngor.

Yn ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ar 25 Tachwedd 2021, cymeradwyodd Cynghorwyr Ceredigion Ddatganiad o Gyfrifon y Cyngor a Datganiad o Gyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2020-2021.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid: “Unwaith eto eleni, mae Datganiad o Gyfrifon y Cyngor yn arddangos rheolaeth ariannol dda a hoffwn ddiolch i'r staff, Archwilwyr a’r Pwyllgor Archwilio am eu gwaith caled. Mae Datganiad o Gyfrifon y flwyddyn hon yn cynnwys sawl cyfeiriadaeth at COVID-19, ynghyd â chrynodeb o gyllid COVID-19 y Cyngor a’r cyllid ar gyfer gwariant Asiantaeth sy’n cynnwys y Taliadau Grant Busnes. Rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnaed wrth brosesu’r taliadau hyn i helpu’r economi leol mewn cyfnod mor anodd.”

Gellir gweld Datganiad o Gyfrifon Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2020-2021 ar wefan y Cyngor: Datganiad o Gyfrifon.

25/11/2021