Yn dilyn cyngor y Llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwneud un math o ymarfer corff bob dydd, rydym yn annog y cyhoedd i fod yn ofalus wrth fanteisio ar gefn gwlad ac arfordir hardd y Sir.

Ar hyn o bryd, mae rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd ei ddefnyddio. Fodd bynnag, rydym yn annog pawb sy’n manteisio ar yr arfordir a chefn gwlad yn ystod y cyfnod hwn i wneud hynny mewn modd cyfrifol a pharchus ac ystyried a oes angen iddynt ddefnyddio llwybrau cyhoeddus yn ystod yr argyfwng.

Rydym yn gofyn i’r cyhoedd gadw draw oddi wrth leoliadau a all fod yn brysur yn ogystal â llwybrau sydd ar bwys tai, gerddi a buarthau fferm. Rydym yn argymell bod trigolion yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol yn ystod y cyfnod hwn ac nad ydynt yn teithio i leoliadau eraill os gellir osgoi hynny.

Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael ei rhannu’n rheolaidd ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy Facebook, Twitter ac Instagram.

25/03/2020