Yn dilyn cadarnhad bod clwstwr o achosion COVID-19 ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, sefydlwyd Tîm Rheoli Achos Lluosog amlasiantaeth.

Fel rhan o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Tîm Olrhain Cysylltiadau Ceredigion ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i nodi’r holl gysylltiadau, ac mae pob un ohonynt wedi gweithredu’n gyflym er mwyn cymryd camau pendant i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Rhoddwyd mesurau rheoli ar waith i leihau'r risgiau o ledaenu'r feirws ymhellach.

Mae’r rheini sydd wedi profi’n bositif yn hunanynysu, ac mae’r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw wedi cael eu nodi ac mae bellach yn ofynnol iddynt hunanynysu am 14 diwrnod. Mae’r myfyrwyr hyn yn parhau â’u hastudiaethau ar-lein ac yn cael eu cefnogi gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae Tîm Olrhain Cyswllt Ceredigion wedi nodi nad oes unrhyw gysylltiadau o fewn y gymuned ehangach ar hyn o bryd, a bod y clwstwr wedi'i gynnwys yn y gymuned fyfyrwyr.

Mae’n bwysig bod pawb yn cydnabod nad yw’r feirws wedi diflannu, ac atgoffir pobl i ddilyn y rheoliadau a chymryd cyfrifoldeb dros gadw eu hunain, ac eraill, yn ddiogel.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cymryd camau cryf a phendant i sicrhau bod nifer yr achosion o COVID-19 yn aros yn isel. Rydym yn ddiolchgar i'r holl breswylwyr am wneud eu rhan. Gan fod nifer y bobl sydd wedi’u heintio ar ei lefel uchaf hyd yma, bydd gweithredoedd pob preswylydd yn arbennig o bwysig wrth atal y feirws rhag lledaenu.

Rydym yn annog myfyrwyr a chymuned ehangach Ceredigion i gymryd y risg o ddifrif ac ystyried sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar aelodau mwy bregus yn ein cymunedau.

Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch y negeseuon allweddol:

• Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth eich gilydd wrth fynd ar hyd y lle.
• Golchwch eich dwylo’n rheolaidd.
• Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus o dan do, mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
• O dan do, dim ond 6 o bobl o’ch aelwyd estynedig y dylech gwrdd â nhw (ac eithrio plant 11 oed ac iau).
• Peidiwch â chwrdd â mwy na 30 o bobl yn yr awyr agored.
• Gweithiwch gartref, lle bo hynny’n bosib.
• Meddyliwch yn ofalus am y teithiau rydych chi’n eu gwneud: ni ddylech deithio oni bai ei bod yn hanfodol i chi wneud hynny. Y lleiaf o bobl rydym yn cwrdd â nhw a’r lleiaf o deithiau rydym ni’n eu gwneud, y mwyaf diogel yr ydym ni i gyd.
Bydd cyfyngu ar eich cysylltiadau cymdeithasol a glynu at y rheoliadau o ran aelwydydd estynedig yn golygu y byddwn i gyd yn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Mae’n rhaid i bawb sy'n datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, a’r unig adeg y dylent adael eu cartrefi yw er mwyn cael prawf.

Dyma brif symptomau Covid-19:
• tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu’ch cefn yn teimlo’n boeth i’w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
• peswch newydd a pharhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
• methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer

Yn ogystal â’r cyfleuster profi drwy ffenest y car yn Aberystwyth, sefydlwyd cyfleuster dros dro lle gall pobl gyrraedd ar droed. Mae’r canolfannau profi hyn i’w defnyddio gan bobl sydd â symptomau COVID-19, a gellir archebu prawf arlein neu drwy ffonio 119.

Mae’r holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynglŷn â’r coronafeirws i’w gweld ar wefan y Cyngor. Rhif ffôn Canolfan Gyswllt Gorfforaethol y Cyngor yw 01545 570881.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

01/10/2020