Mae trigolion Ceredigion yn cael eu hatgoffa bod yn rhaid i bobl aros gartref yn ystod cyfnod clo lefel rhybudd 4 ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn. Ni ddylai pobl ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw.
Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â sefydliadau partner yn pryderu bod lefel y traffig ar ein ffyrdd yn llawer uwch nag a ddisgwylid yn ystod cyfyngiadau symud lefel rhybudd 4, sydd ar waith ledled Cymru.
Mae nifer dyddiol o achosion COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i fod yn uchel ond yn sefydlog. Fodd bynnag, nid ydym wedi gweld eto pa effaith a gafwyd o'n gallu i gymysgu aelwydydd ar Ddydd Nadolig ac efallai y bydd nifer yr achosion yn cynyddu eto.
Rydym i gyd wedi cael blwyddyn anodd ac rydym yn awyddus i weld 2020 yn dod i ben ac yn edrych ymlaen at 2021. Ond nid nawr yw'r amser i ddathlu. Mae optimistiaeth wrth i'r brechlyn COVID-19 gael ei gyflwyno, ond mae nifer yr achosion yn ein cymunedau yn parhau'n uchel.
Peidiwch â gwahodd pobl i'ch tŷ i ddathlu Nos Galan eleni a pheidiwch â chymysgu ag aelwydydd eraill yn yr awyr agored. Does dim parti werth y risg.
Mae'r cyfyngiadau hyn yn golygu mai ychydig iawn o resymau sydd i gallu adael eich cartref. Mae'r rhain yn cynnwys:
- ar gyfer gwaith, os na allwch weithio gartref
- cael cyflenwadau a gwasanaethau i chi neu i'ch cartref
- cael mynediad at ofal plant ac addysg
- cael mynediad at wasanaethau meddygol neu gyhoeddus
- darparu gofal i berson sy'n agored i niwed
- symud cartref.
Gallwch adael eich cartref mor aml ag y byddwch yn dymuno i ymarfer corff gydag aelodau o'ch cartref neu swigod cymorth. Fodd bynnag, dylid gwneud ymarfer corff yn lleol i'ch cartref ac ni ddylai fod angen teithio.
Mae'n rhaid i ni gyd chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau:
- Cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn eich swigen gefnogaeth.
- Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) yn mhob lle cyhoeddus dan do.
- Aros gartre
- Peidio â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth).
- Peidio â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu sydd yn eich swigen gefnogaeth.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth mewn gardd breifat.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn yr awyr agored.
- Gweithio gartre os medrwch.
- Peidio â theithio heb esgus resymol.
- Peidio â theithio dramor heb esgus resymol.
- Os oes gennych symptomau COVID-19, hunan-ynyswch ar unwaith a threfnu prawf gan adael eich cartref yn unig i gael y prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.
Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19.
Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
30/12/2020