Mae darparwyr gofal plant yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant y Llywodraeth. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar holl ddarparwyr gofal plant Ceredigion i gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein.

Mae’r Cyngor wedi ei ddynodi yn awdurdod darparu ar gyfer y Cynnig Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru ac wrthi yn paratoi ar gyfer lansiad y cynnig ar 01 Medi 2018. Mae’r cynnig yn darparu hyd at 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio o blant 3 a 4 blwydd oed.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Fe ddylai pob darparwr plant yng Ngheredigion weld y Cynnig Gofal Plant nid yn unig fel cyfle gwych i rieni, ond hefyd i ddarparu gwell sefydlogrwydd i’w busnesau. Yn ogystal, mae’n gyfle iddynt fod yn rhan o gynllun y gellir ymddiried ynddi sydd wedi ei ariannu yn genedlaethol. Mae’r Cynnig yn ased gwych i unrhyw ddarparwr gofal plant ac mae nifer yn y sir yn cynllunio i estyn eu horiau agor oherwydd y cynnig.”

Fe ddylai darparwyr gofal plant sydd â diddordeb mewn cofrestru fel darparwyr o’r Cynnig Gofal Plant fynd i wefan y Cyngor i ddysgu mwy ac i gofrestru ar-lein: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/plant-a-phobl-ifanc/gofal-plant/y-cynnig-gofal-plant-30-awr-wedii-ariannu/gwybodaeth-i-ddarparwyr/

Mae ffurflen gofrestru ar-lein ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio i gofrestru am y Cynnig Gofal Plant yn cael ei orffen ar hyn o bryd a bydd ar gael yn y dyfodol agos.

19/07/2018