Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i drigolion Ceredigion gadw llygad am ffurflenni ymholiadau cartrefi yn y post, ac i wneud yn siŵr eu bod yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio mewn etholiadau a refferendwm.

Dywedodd Eifion Evans, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Ngheredigion, “Mae gennym ni dros 34,600 o gyfeiriadau yng Ngheredigion i edrych arno a sicrhau bod gennym ni'r manylion cywir ar y gofrestr etholiadol. Os na dderbynnir ymateb, mae'n ofynnol i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol anfon dau nodyn atgoffa pellach allan yn y post ac ymweld a chyfeiriadau i weld a fu unrhyw newidiadau i'r cartref – y mae pob un ohonynt yn costio arian. Rydym yn ddiolchgar i chi am wirio’r ffurflen pan fydd hi'n cyrraedd a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl. Dydyn ni ddim eisiau i chi golli eich hawl i bleidleisio.”

Bwriad y ffurflen yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol wedi’i diweddaru, a nodi unrhyw drigolion nad ydynt wedi'u cofrestru fel y gellir eu hannog i wneud hynny.

Parhaodd Eifion Evans, “Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y ffurflen. Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen a'i dychwelyd atom ni i ddechrau’r broses gofrestru.”

Mae pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn cael eu hannog yn benodol i gadw llygad am y ffurflen a gwirio'r manylion.

Mae fwy o wybodaeth ar gael ar: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/canfasio-blynyddol/

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau ar 01545 572 032 neu e-bostiwch: gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.

19/07/2019