Mae Gŵyl Banc Awst bron yma ac mae'n edrych fel y bydd yn heulog ac yn gynnes am y penwythnos hir sydd i ddod. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, bu cynnydd dramatig mewn achosion covid yng Ngheredigion, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol.

Mae'r lefelau ar hyn o bryd yn dangos nifer yr achosion ar 255.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth, gydag Aberteifi ar 304.1 fesul 100,000; Ceinewydd a Penbryn ar 395.6 a De Aberystwyth ar 313.8. Mae pob ardal o Geredigion yn uwch na 200 fesul 100,000 o'r boblogaeth sy'n bryder ac mae'n dangos bod y feirws yn lledaenu'n gyflym yn y gymuned, yn enwedig ymhlith y rhai rhwng 10 a 29 oed.

Disgwylir i nifer yr achosion gynyddu ymhellach dros y dyddiau nesaf ac mae'n anochel y bydd ein trefi arfordirol yn brysurach na'r arfer a bydd lleoedd yn orlawn. Felly, os ydych chi'n partio gartref neu'n mynd ‘allan allan', gwnewch y gorau y gallwch i gyfyngu ar y tebygrwydd o ddal covid trwy:

• Olchi’ch dwylo’n rheolaidd.

• Gwisgwch fasg wyneb, yn enwedig mewn lleoedd gorlawn, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn siopau.

• Cadwch eich pellter. Er bod y rheol 2m wedi dod i ben, mae gan fusnesau’r hawl i gadw at gyfyngiadau tebyg i helpu i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.

• Mae cyfarfod y tu allan yn fwy diogel na'r tu mewn – gwnewch y gorau o'n traethau hardd, parciau a llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus.

• Gadewch awyr iach i mewn i fannau dan do.

• Ewch i gael eich profi a hunan-ynyswch, hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn. Er mwyn archebu prawf, ewch i https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffoniwch 119.

Mae brechiadau bellach ar gael i bob person 16-17 oed. Mae mwy o wybodaeth am glinigau cerdded i mewn ar gael yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/mass-vaccination-centres/

Mae pawb angen cyfle i ailymuno â ffrindiau a theulu neu gael ychydig o orffwys a seibiant; gall yr holl sefyllfaoedd hyn gynnwys cael diod neu ddau i ymlacio a mwynhau. Nid yw Covid yn cael seibiant dim ond oherwydd eich bod chi'n cael un. Cadwch eich hun, eich teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr yn ddiogel.

25/08/2021