Bydd Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn cael ei ailstrwythuro i'w wneud yn gynaliadwy ac i wneud arbedion o fewn y Gwasanaeth Ysgolion.

Trafodwyd y gwasanaeth yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu ar 9 Mai. Gwnaeth y pwyllgor argymhellion a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 21 Mai. Nododd y Cabinet yr argymhellion.

Mae'r penderfyniad i ail-strwythuro'r gwasanaeth cerdd yn cael ei wneud gan uwch swyddogion y cyngor wedi i gynghorwyr gymeradwyo cynigion i wneud arbedion o £499,000 o gyllideb y Gwasanaeth Ysgolion ar 21 Chwefror 2019. Gwnaed y penderfyniad hwn ar ôl toriadau o £39m ar draws y cyngor dros y saith mlynedd diwethaf. Mae angen i'r cyngor arbed £6m arall yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

O dan y strwythur newydd, bydd pob disgybl yn parhau i allu cael hyfforddiant cerddoriaeth mewn amrywiaeth o offerynnau. Bydd disgyblion hefyd yn parhau i elwa ar amrywiaeth eang o ensembles, cerddorfeydd a chorau. Bydd pob disgybl sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn gallu defnyddio'r gwasanaeth am ddim. O dan y strwythur newydd, bydd y gwasanaeth yn cadw’r holl incwm a gynhyrchir a gallai ddarparu hyfforddiant cerddoriaeth mewn lleoedd ar wahân i ysgolion. Bydd nifer y staff sydd eu hangen yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n derbyn hyfforddiant cerddoriaeth.

Meinir Ebbsworth yw'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion. Dywedodd, “Rwy'n deall bod yr arbedion y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn poeni llawer o bobl sy'n gwerthfawrogi'r Gwasanaeth Cerddoriaeth yn fawr iawn. Rydym am weld y gwasanaeth yn ffynnu yn y dyfodol ac am gyflawni hynny ar adeg pan fo ein cyllidebau wedi'u torri'n ddifrifol dros gyfnod o flynyddoedd.”

21/05/2019