Cynhaliwyd ail Weithdy ar 09 Gorffennaf i Gynghorwyr Sir drafod dyfodol economaidd Ceredigion, gan ddod â rhai o sefydliadau mwyaf y sir at ei gilydd i rannu'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig a sut y gall gweithio partneriaethol rhwng busnesau a Chyngor Sir Ceredigion edrych yn y dyfodol.

Roedd y Gweithdy yn gyfle i glywed gan y busnesau mawr sy'n gweithredu yng Ngheredigion. Rhoddodd Environment Systems, MicroPharm a Rachel's Dairy gipolwg ar eu busnesau ac am gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.

Mae'r Gweithdai yn elfen hanfodol o ymgysylltu â busnesau wrth i'r Cyngor ddechrau paratoi ar gyfer Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth a fydd, os yn llwyddiannus, yn rhoi hwb mawr i'r economi, rhagolygon swyddi a ffyniant yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Is-gadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, “Rwy'n gobeithio y bydd cynnal yr ail Weithdy Dyfodol Economaidd yn dangos ein bod yn parhau i gyfarfod a chefnogi busnesau. Mae'r busnesau hyn yn allweddol wrth gadw ein pobl ifanc yn y sir, gan ddarparu amrywiaeth o wahanol swyddi, datblygu eu sgiliau a dysgu parhaus ar gyfer eu dyfodol yng Ngorllewin Cymru.”

Cynhelir trydydd Gweithdy yn y dyfodol agos a fydd yn rhoi blas o brosiectau posibl ar gyfer y Bargen Twf.

Bydd y Bargen Twf yn cael ei baratoi rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Powys, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Cytundeb ar y Cyd rhwng Ceredigion a Phowys hefyd yn cael ei baratoi i’w gytuno yn yr Hydref i fynd â'r gwaith hwn ymlaen.

Llun: Richard Cooper, Rheolwr Cyffredinol Rachel's Dairy; Yr Athro John Landon MD, MicroPharm; Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion; Steve Keyworth, Cyfarwyddwr Environment Systems yn ystod y Gweithdy.

17/07/2018