Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar hyn o bryd yn cynnal Asesiad o faterion yn ymwneud â materion trosedd ac anhrefn o fewn y Sir.

Diben yr Asesiad yw darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o broblemau diogelwch cymunedol a fydd yn darparu gwybodaeth ac yn galluogi’ch Partneriaeth Diogelwch Cymunedol er mwyn: Deall y patrymau, tueddiadau a’r newidiadau ym maes Trosedd ac Anhrefn a Cham-drin Sylweddau; Gosod blaenoriaethau eglur a chadarn; Datblygu gweithgaredd a yrrir gan wybodaeth ddibynadwy a chwrdd ag anghenion y gymuned leol; Defnyddio adnoddau yn effeithiol a chyflwyno gwerth am arian; Gwneud adolygiadau blynyddol a chynllunio gweithgareddau ar sail deall y materion a’r blaenoriaethau yn eglur.

Bydd yr Asesiad hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu tuag at Gynllun Heddlu a throsedd, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys a chynlluniau a mentrau cysylltiedig eraill.

Fydd Cyfarfod Diogelwch Cymunedol Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac uwch gynrychiolwyr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher, 18 Ebrill, yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 7yh a gorffen erbyn 9yh.

Dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Strategol, Dysgu a Phartneriaethau, a Chadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, “Mae gwahoddiad cynnes i’r cyhoedd fod yn bresennol a fydd y cyfarfod yn gyfle gwych i’r cyhoedd chware rhan bwysig yn llunio blaenoriaethau plismona a diogelwch cymunedol Ceredigion yn y dyfodol. Ceir cyflwyniadau byr, ac yna fydd cyfle i’r cyhoedd i sôn am unrhyw faterion penodol neu bryderon sydd o bwys yn eu cymunedau. Ymunwch a ni i ddweud eich dweud!”

Yn 1998, Rhoddodd y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol a’r Heddlu i ffurfio partneriaeth i leihau trosedd ac anhrefn yn eu cymunedau. Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Cyngor Sir, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân & Achub a’r Awdurdod Tân & Achub, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus, Gwasanaeth Atal Cyfiawnder Ieuenctid a’r Bwrdd Cynllunio Ardal ar Gam-drin Sylweddau.

Mae'r Bartneriaeth eisoes wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus trwy ddosbarthu holiaduron drwy'r Sir i amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion a'u harddangos yr holiadur ar Wefan Cyngor Sir. Cwblhawyd yr ymgynghoriad ar 1 Chwefror, 2018.

06/04/2018