Mae addasiadau i Barthau Diogel Ceredigion yn cael eu rhoi ar waith wrth i’r cyfnod atal byr ddod i ben.

Ym mis Awst, cyflwynwyd gorchmynion traffig dros dro fel y gallai’r Parthau Diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion barhau am hyd at 18 mis yn amodol ar adolygiadau rheolaidd fel y gellir gwneud addasiadau.

Prif ddiben y Parthau Diogel a’r mesurau eraill a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yw helpu i ddiogelu iechyd ein cymuned drwy leihau’r risg o heintiau Covid. Yn ffodus, mae ein lefelau wedi aros yn gymharol isel o gymharu â siroedd eraill. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus a sicrhau bod mesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl ein sir.

Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch y cyfnod atal byr, mae’r Cyngor wedi rhoi’r gorau i gau ffyrdd o fewn y Parthau Diogel dros dro rhwng 23 Hydref a 09 Tachwedd.

O 09 Tachwedd ymlaen, bydd y gorchmynion yn parhau gydag addasiadau fel a ganlyn:

Yn Aberteifi a Cheinewydd, bydd y ffyrdd yn aros ar agor, a bydd cynllun canol y dref yn dychwelyd i’r hyn yr oedd cyn y cyflwynwyd trefniadau’r parthau diogel.

Yn Aberaeron, bydd trefniadau presennol y parthau diogel yn parhau.

Yn Aberystwyth, o 13 Tachwedd ymlaen, dim ond rhwng 11am a 6pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn y bydd y ffyrdd sydd ar gau bob dydd fel arfer yn cau. Yn ogystal, bydd mynediad cyfyngedig i ddeiliaid bathodyn glas i’r Porth Bach o Stryd Portland, yn ogystal â mynediad cyfyngedig i’r Ffynnon Haearn o Ffordd y Môr. Bydd mannau parcio ychwanegol i’r anabl yn cael eu darparu ym mhen uchaf Y Porth Bach yn fuan.

Mae’r addasiadau hyn yn ystyried ystod eang o wybodaeth gan gynnwys canlyniadau arolwg diweddar a gynhaliwyd yn ystod yr haf, adborth a dderbyniwyd ers hynny, cyfraddau heintio Covid-19 a nifer yr achosion mewn gwahanol ardaloedd, yr adegau masnachu prysuraf, nifer y myfyrwyr ac ymwelwyr ac adeg y flwyddyn.

Mae’r cyfraddau heintio uwch yn ardal Aberystwyth, nifer yr ymwelwyr a myfyrwyr, yn ogystal â’r nifer uwch o ymwelwyr ar benwythnosau yn golygu bod angen mesurau yn ystod yr adegau prysuraf. Mae’r addasiadau’n sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng mynediad anghyfyngedig o ddydd Sul i ddydd Iau a lleihau’r risg yn ystod yr adegau prysurach lle gall pobl fwynhau mwy o le i siopa ac ymweld â gwasanaethau.

Bydd data'n parhau i gael ei fonitro fel bod y broses o weithredu’r Parthau Diogel yn cael ei hadolygu'n barhaus. Mae'n debygol y bydd y newidiadau uchod ar waith tan 01 Ionawr 2021. Bydd ardaloedd sydd ar gau 24/7 a chyfyngiadau parcio yn parhau. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we ynglŷn â’r parthau diogel: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/parthau-diogel/

Mae'r parthau diogel yn cyd-fynd â strategaeth y gaeaf i ddiogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus a galluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

06/11/2020