Mae rhoddwyr gwaed ffyddlon yn Ceredigion wedi ymateb i gais gan Wasanaeth Gwaed Cymru i ‘roi’n wahanol’ drwy dorchi eu llewys i roi gwaed allai achub bywyd yn un o hybiau rhanbarthol newydd y Gwasanaeth.

Ar draws Cymru, o’r 6,808 unigolyn a ymwelodd â sesiwn rhoi gwaed Gwasanaeth Gwaed Cymru ym mis Mai, mynychodd 63% o’r rhoddwyr glinig gwahanol i roi gwaed.

Yn Ceredigion, rhoddodd 293 o bobl waed ym mis Mai, gyda 34 yn mynychu sesiwn rhoi gwaed am y tro cyntaf erioed.

Yn dilyn canslo cyfres o leoliadau oherwydd Covid-19 a chyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, ni fedrodd Gwasanaeth Gwaed Cymru gynnal sesiynau rhoi gwaed yn y deg ar hugain o safleoedd cymunedol y mae’n ymweld â nhw ledled Cymru bob wythnos fel arfer.

Cyflwynodd y Gwasanaeth amserlen casglu newydd ddechrau mis Ebrill gyda chasgliadau o bump hyb rhanbarthol rhoi gwaed mewn gwahanol rannau o Gymru bob wythnos. Gofynnwyd i bobl oedd yn rhoi gwaed i fynd i’w hyb agosaf.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Pan ddaeth yn glir na fedrem barhau gyda busnes fel arfer, gwyddem y byddai’n rhaid i ni ofyn i bobl roi gwaed mewn modd gwahanol. Mae ein hybiau rhoi gwaed rhanbarthol wedi disodli ein rhaglen casgliadau lleol arferol a bu’r ymateb gan bobl yn hynod.

“Cafodd 98.3% o’r apwyntiadau oedd ar gael gennym ers y cyfyngiadau symud eu cymryd a chafodd llawer ohonynt eu cymryd gan bobl a fyddai wedi bod yn barod i fynd hyd yn oed ymhellach mas o’i ffordd nag arfer er mwyn rhoi gwaed a fedrai achub bywyd.”

Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer y bobl newydd sy’n dod ymlaen i roi gwaed.

Aeth Mr Prosser yn ei flaen: “Ym mis Mai 2019, roedd tua 11% o’r rhai a fynychodd ein sesiynau rhoi gwaed yn rhoddwyr newydd. Ym mis Mai eleni, roedd 19% o’r rhai a fynychodd yn bobl nad oeddent erioed wedi rhoi gwaed o’r blaen.

“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y rhoddwyr nad oeddent wedi rhoi gwaed ers blynyddoedd yn dychwelyd i’n sesiynau i’n helpu i hybu stoc. Bu’n rhyfeddol a rydym yn ddiolchgar tu hwnt.”

Mae stoc gwaed yng Nghymru wedi parhau’n iach drwy gydol y pandemig gan fod y gostyngiad mewn gweithgaredd casglu wedi cyfateb â gostyngiad yn faint o waed a ddefnyddiwyd gan ysbytai. Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth yn annog rhoddwyr i barhau i fynychu eu sesiynau lleol fel a phryd y codir y cyfyngiadau symud.

“Mae stoc gwaed yn iach iawn ar hyn o bryd diolch i ymrwymiad rhoddwyr newydd a phresennol ond rydym angen i bobl barhau i roi gwaed i sicrhau y gallwn ddal i ateb galw ysbytai yn y misoedd nesaf. Caiff teithio i roi gwaed ei ystyried yn deithio hanfodol a gall unrhyw un sy’n ffit, iach a chymwys i roi drefnu apwyntiad drwy wefan www.welsh-blood.org.uk/cy/."

30/06/2020