Ar Ddydd Llun 28 Mawrth fe wnaeth Ysgol Gynradd Aberaeron ddod i’r brig yn rownd derfynol Cwis Dim Clem 2022 gan guro ysgolion o bob cwr o Gymru gyda sgôr uchel iawn o 98%.

Mae Cwis Dim Clem yn gystadleuaeth gwis Cymraeg ei iaith sydd yn cael ei gydlynu yng Ngheredigion gan Cered ar ran rhwydwaith y Mentrau Iaith ac mae’n gweld plant blwyddyn 6 yn ateb pob math o gwestiynau gwybodaeth cyffredinol ar Gymru. Nod y gystadleuaeth yw i gefnogi gwaith yr ysgolion gyda’r Siarter Iaith ac i godi ymwybyddiaeth o waith y Mentrau Iaith.

Cyrhaeddodd Ysgol Gynradd Aberaeron y rownd derfynol trwy ennill rownd sirol Ceredigion a rownd rhanbarthol y De Orllewin a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth. Y ddau gwisfeistr yn y rownd derfynol oedd y cyflwynwyr S4C adnabyddus Mari Løvgreen ac Owain Williams. Meddai Mari: “Roedd hi mor hyfryd gallu cynnal y Cwis hwn eleni a chael gweld y plant yn eu timoedd ar y sgrin. Roedd egni y plant bron i'w deimlo, a’u brwdfrydedd yn cymryd rhan yn amlwg iawn. Roedd ‘na sawl cwestiwn ro’n i'n cael trafferth eu hateb, ond ro’dd y plant fel petai wedi cael hwyl dda iawn arni!”

O ganlyniad i Cofid-19 cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn rhithiol unwaith eto eleni. Gan ddefnyddio platfformau digidol fel Teams, Zoom a Kahoot roedd modd parhau â’r gystadleuaeth yn ddiogel ac yn hwylus gan osgoi unrhyw gostau ac anghyfleustra i’r ysgolion o ran teithio ayyb.

Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered: “Dwi wrth fy modd yn gweld Ysgol Gynradd Aberaeron yn gwneud mor dda yn y gystadleuaeth eleni gan sgorio mor dda ymhob rownd a dangos fod modd cael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg.”

06/04/2022