Mae’r coronaferiws yn carlamu trwy Gymru yn gyflymach nac ar unrhyw adeg arall yn y pandemig.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau anferthol. Maen nhw’n gweithio ddydd a nos i ofalu am bobl a’u diogelu.

Mae’r gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, yn ddyddiol. Ond wrth i’r feirws barhau i ledaenu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

Mae’r feirws yn cael effaith fawr ar ein gwasanaethau argyfwng hefyd.

Dros yr wythnosau nesaf, mae angen inni sicrhau eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen, a gwir argyfwng.

Diolch o galon i bob un ohonoch sy’n dal ati i ddilyn y rheolau.

Yn anffodus, wrth i nifer yr achosion coronafeirws godi’n uwch eto, a bygythiad ychwanegol yr amrywiolyn newydd yn ei gwneud yn haws i’r feirws drosglwyddo i eraill, mae mwy fyth o debygrwydd y byddwn ni’n dal y feirws ofnadwy hwn a’i basio i eraill.

I gadw eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn, ddylech chi ddim cymysgu â phobl eraill.

I’r rhan fwyaf o bobl bydd y feirws yn achosi salwch ysgafn, ond mae llawer – ein rhieni, ein neiniau a’n teidiau – a allai fynd yn ddifrifol wael, neu farw.

Mae gormod o deuluoedd wedi colli pobl i’r feirws erchyll hwn. Ac os na weithredwn ni nawr, bydd rhagor yn marw.

Bydd ein gweithredoedd ni dros y Nadolig ac yn yr wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio ar Gymru am flynyddoedd.

Dyma erfyn ar bawb i feddwl yn ofalus cyn gweithredu, i ddiogelu ein gwasanaethau brys a’n cyrff cyhoeddus fel eu bod nhw yno i ni pan fo gwir angen.

23/12/2020