Bydd holl ddisgyblion Ceredigion yn cael eu haddysgu o bell o ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021, hyd at ddiwedd y tymor.

Gwnaed y penderfyniad hwn i ddiogelu ein plant, ein staff, ein teuluoedd a’n cymunedau trwy leihau cyswllt i atal lledaeniad y feirws. Mae cyfradd achosion Ceredigion wedi dangos y cynnydd uchaf ond un o bob Awdurdod Lleol yng Nghymru dros y saith diwrnod diwethaf ac mae achosion o’r amrywiolyn COVID-19 newydd, sef Omicron, yn cynyddu’n gyflym yng Nghymru. Mae hyn, ar y cyd â’r heriau dyddiol y mae ysgolion yn eu hwynebu, gan gynnwys absenoldebau staff, wedi arwain at benderfyniad i symud at ddysgu o bell er mwyn amddiffyn ein gwasanaethau rheng-flaen gymaint â phosibl. Gwnaed y penderfyniad hwn gyda chefnogaeth lawn Undebau Prifathrawon ac Athrawon ac er budd pennaf y disgyblion, eu teuluoedd a staff yr ysgolion.

Mae’r Cyngor yn cydnabod gwaith caled staff ein hysgolion drwy gydol y flwyddyn, gan fynd i’r afael â’r heriau sydd wedi dod yn sgil y coronafeirws, yn ogystal â parhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar yr un pryd, boed hynny wyneb yn wyneb neu o bell. Rydym hefyd yn diolch i rieni am eu cymorth yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gall plant gweithwyr allweddol a phlant bregus fynd i’r hybiau ysgol ar gyfer y tri diwrnod sy’n weddill, lle bo angen. Bydd rhagor o wybodaeth am y trefniadau’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â rhieni gan y penaethiaid. Bydd cymorth ar gyfer disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau o ddydd Llun, 20 Rhagfyr 2021, a thros gyfnod y gwyliau Nadolig. Bydd cyfarpar TGCh yn cael ei ddarparu ar gyfer plant y mae arnynt eu hangen.

Mae’r Cyngor yn annog rhieni i gyfeirio eu plant i gael prawf os ydynt yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • tymheredd uchel
  • peswch newydd, parhaus
  • colled neu newid i synnwyr blas neu arogl.

Dylai rhieni hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, tebyg i gur pen, blinder a phoenau cyffredinol eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw.  

Rydym yn annog teuluoedd sy’n cwrdd â ffrindiau a theulu dros gyfnod y Nadolig i wneud y pethau sylfaenol i gadw ei gilydd yn ddiogel, gan gynnwys:

  • Manteisio ar y ddau frechlyn, a chael eich pigiad atgyfnerthu pan gewch eich gwahodd i’w gael.
  • Hunanynysu a threfnu prawf PCR os oes gennych symptomau.
  • Os nad oes gennych symptomau, cymryd profion llif unffordd rheolaidd cyn mynd allan – boed hynny i barti Nadolig, siopa Nadolig, ymweld â ffrindiau neu deulu, mynd i fannau prysur neu cyn teithio.
  • Cofio bod cwrdd y tu allan yn fwy diogel na chwrdd y tu mewn.
  • Cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl.
  • Golchi eich dwylo.
  • Gwisgo masg. Os ydych mewn tafarn neu fwyty, gwisgwch eich masg os nad ydych yn bwyta neu’n yfed.
  • Gallwch gael profion llif unffordd am ddim o fferyllfeydd (nid oes angen archebu) neu trwy archebu ar-lein i’w cael trwy’r post o GOV.UK.

Os nad ydych wedi cael eich dôs cyntaf o'r brechlyn eto, nid yw'n rhy hwyr i wneud hynny er mwyn amddiffyn eich hun, y bobl o'ch cwmpas, a'r gymuned ehangach. Os ydych dros 65 oed a heb gael apwyntiad ar gyfer brechiad atgyfnerthu eto, neu os oes mwy na 26 wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich ail ddôs ac nad ydych wedi cael apwyntiad, cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn uniongyrchol: Y Rhaglen Frechu 

Bydd y modd y byddwn yn ymddwyn a’r dewisiadau y byddwn yn eu cymryd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn pennu nifer yr achosion a fydd yn y sir wrth i ni wynebu’r flwyddyn newydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac yn dymuno’n dda i chi dros gyfnod yr ŵyl.

14/12/2021