Bydd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn cau dros dro o 07 Rhagfyr ymlaen yn dilyn cadarnhau nifer o achosion o COVID-19 ymhlith disgyblion a staff.
Gwnaed y penderfyniad i gau safle’r ysgol yn dilyn ymgynghoriad llawn a chytundeb gan yr Awdurdod Lleol.
Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu o bell yr wythnos hon a bydd yr ysgol yn parhau ar agor ar gyfer disgyblion bregus.
Mae’r Cyngor yn annog pob rhiant i fod yn ymwybodol o symptomau COVID-19, sy’n cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu golled neu newid i synnwyr blas neu arogl. Ond mae yna symptomau cynnar eraill hefyd, gan gynnwys cur pen, blinder neu boenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw. Gallwch drefnu prawf ar-lein https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynghylch y mater hwn.
07/12/2021