Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac mae wedi bod yn arbennig o anodd i Ofalwyr Di-dâl sy'n darparu gofal i aelodau o'r teulu a ffrindiau ledled Ceredigion.

Mae cynifer ag un ymhob pedwar o bobl yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl, gan arbed dros £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Yn ôl y gyfraith, mae gan ofalwyr hawl i gael seibiant. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau COVID-19 a’r cyfnod clo wedi golygu ei bod wedi bod yn anodd i nifer o ofalwyr gael seibiant o'u rôl gofalu. Ers dechrau'r pandemig, mae 80% o ofalwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod bellach yn darparu mwy o ofal nag yr oeddent o'r blaen, ac nid yw 60% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru wedi gallu cymryd seibiant o gwbl.

Gall cael seibiant yn ystod y cyfnod clo fod ar sawl ffurf, megis mynd am dro, gwylio ffilm neu wneud amser i gael paned o de a bisged. Yn anffodus, yn aml nid oes gan ofalwyr amser i wneud hyn, neu ni allant wneud amser ar gyfer hyn.

Yr wythnos diwethaf, darparodd Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion, sy'n cefnogi Gofalwyr Di-dâl yng Ngheredigion, ‘seibiant mewn bocs’ yn rhodd i ofalwyr sy'n aelodau o'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr. Roedd y bocs yn cynnwys amrywiaeth o ddanteithion Cymreig, gan gynnwys te, bara brith, cacennau cri a jam.

Mae nifer o Ofalwyr wedi adrodd bod derbyn eu ‘seibiant mewn bocs’ wedi codi eu calon yn y cyfnod tywyll a digalon hwn, ac wedi rhoi’r gydnabyddiaeth a’r hwb yr oedd eu hangen arnynt. Dywedodd un Gofalwr: “Diolch yn fawr, dyma'r peth gorau sydd wedi digwydd i mi ers amser maith. Cyrhaeddodd ar ddiwrnod yr oeddwn i'n teimlo'n arbennig o isel. Rydw i nawr yn mynd i fwynhau paned o de a chacen gri hyfryd.”

Os ydych yn darparu gofal ar hyn o bryd, a hynny’n ddi-dâl, i ffrind neu aelod o'r teulu na all ymdopi ar ei ben ei hun yn sgil salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth, gallwch ymuno â Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ceredigion AM DDIM. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn a gwasanaethau eraill i Ofalwyr ar wefan y Cyngor: Cymorth i Ofalwyr.

10/03/2021