Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y gallai canolfannau cymunedol amlbwrpas, gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwysi a chyflusterau cymunedol eraill, ailagor o 03 Mai ymlaen, yn hytrach na’r dyddiad blaenorol o 17 Mai.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn ystod y sesiwn friffio heddiw, ac mae’r canllawiau ar gyfer lleoliadau cymunedol amlbwrpas yn cael eu diweddaru i sicrhau cydymffurfiad â datblygiadau mewn rheoliadau, gan gynnwys pwyslais pellach ar awyru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori awdurdodau y bydd y rheoliadau ar ymgynnull yn gymdeithasol yn dal i atal nifer o weithgareddau rhag digwydd mewn lleoliadau cymunedol, a dim ond gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 15 o bobl a ganiateir.

 

Mae’r panel yn eich cynghori'n gryf i wneud pob ymdrech i gynnal eich gweithgaredd yn ddigidol neu gysylltu dros y ffôn. Os na, gallech ystyried a yw’n bosib cynnal eich gweithgaredd yn yr awyr agored, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Fel dewis olaf y dylid ystyried cynnal eich gweithgaredd o dan do. Os mai hwn yw’r unig ddewis a'i bod yn hanfodol eich bod yn cyfarfod, yna sicrhewch eich bod yn cadw’r sesiwn yn gryno ac yn cynnwys cyn lleied o bobl â phosibl, gyda'r holl weithdrefnau a phrotocolau angenrheidiol ar waith.

Dylai’r rheini sy’n gyfrifol am weithgareddau cymunedol gofio gwneud y canlynol;

  • cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr.
  • gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus dan do.
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad neu ddefnyddio’r hylif diheintio dwylo a ddarperir.    

Sefydlwyd panel amlasiantaeth i gynnig cyngor a chefnogi’r gwaith o ailagor cyfleusterau’n ddiogel, a hynny’n unol â chanllawiau cenedlaethol. Crëwyd y panel o dan Is-grŵp Deall ein Cymunedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chyngor Sir Ceredigion sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu’r grŵp a hynny mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r panel yn cynnwys cynrychiolaeth o Iechyd a Diogelwch, Iechyd yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol.

Mae'r panel yn annog unrhyw un sy'n gyfrifol am gyfleusterau cymunedol i geisio cyngor er mwyn sicrhau bod y trefniadau'n ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol. Cyn ailagor unrhyw gyfleuster cymunedol, rhaid i'r canolfannau hynny sicrhau eu bod yn barthau sy’n rhydd rhag Covid.

Bydd y panel yn anelu at gynnal sesiwn friffio arall ar 28 Ebrill am 13:30 i gefnogi'r rhai sy'n gyfrifol am leoliadau cymunedol gyda'r datblygiadau diweddaraf. Os hoffech chi ymuno â'r sesiwn friffio nesaf, cofrestrwch yma neu cysylltwch trwy'r manylion isod.

Bydd y panel aml-asiantaeth yn parhau i gefnogi a chynghori Sefydliadau a Grwpiau Cymunedol, a gellir cyflwyno cwestiynau neu geisiadau am wybodaeth i'r grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol drwy CAVO ar gen@cavo.org.uk neu drwy ffonio 01570 423232.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

 

23/04/2021