Yn sgil pryderon am gyfradd heintio’r coronafeirws, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd pob ysgol yn cael dau ddiwrnod ar gychwyn y tymor newydd ar gyfer cynllunio. Mae hyn yn golygu y bydd y tymor ysgol newydd i blant yng Ngheredigion yn dechrau ddydd Gwener, 07 Ionawr 2022.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, gofynnir i staff pob ysgol a disgyblion ysgolion uwchradd gymryd profion llif unffordd (LFT) dair gwaith yn ystod yr wythnos cyn dychwelyd i’r ysgol, sef ar ddydd Llun 03 Ionawr, dydd Mercher 05 Ionawr a bore dydd Gwener 07 Ionawr.

Dylai staff a disgyblion uwchradd barhau i gymryd profion llif unffordd dair gwaith yr wythnos hefyd o hynny allan ar ôl dychwelyd i’r ysgol.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch pawb gan hefyd gynnal darpariaeth addysg bwrpasol i’n disgyblion.

Rydym yn hynod ddiolchgar i staff ein hysgolion am eu hymroddiad a’u gwaith caled, gan fynd i’r afael â heriau’r coronafeirws a pharhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar yr un pryd, boed hynny wyneb yn wyneb neu o bell. Rydym hefyd yn diolch i rieni am eu cymorth yn ystod y cyfnod heriol hwn ac yn diolch i ddisgyblion am ymateb mor dda i bob sefyllfa.

Symptomau

Gydag achosion yn cynyddu yn y sir, ni ddylai neb fynd i’r ysgol os oes ganddynt unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronfaeirws. Dylent hunanynysu yn syth a threfnu prawf PCR – https://www.gov.uk/get-coronavirus-test.

Mae’r prif symptomau yn cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • peswch newydd, parhaus
  • colled neu newid i synnwyr blas neu arogl.

Dylai rhieni hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, tebyg i gur pen, blinder a phoenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw.  

Camau gofalus

Cofiwch y gall pob un ohonom gymryd camau a all wneud gwahaniaeth i ddiogelu ein gilydd, ein ffrindiau, ein teulu a’n cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Manteisio ar y ddau frechlyn, a chael eich pigiad atgyfnerthu pan gewch eich gwahodd i’w gael.
  • Hunanynysu a threfnu prawf PCR os oes gennych symptomau.
  • Os nad oes gennych symptomau, cymryd profion llif unffordd rheolaidd cyn mynd allan i rywle – boed hynny i ddigwyddiad, siopa, ymweld â ffrindiau neu deulu, mynd i fannau prysur neu cyn teithio.
  • Cofio bod cwrdd y tu allan yn fwy diogel na chwrdd y tu mewn.  
  • Cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl.
  • Golchi eich dwylo.
  • Gwisgo masg. Os ydych mewn tafarn neu fwyty, gwisgwch eich masg os nad ydych yn bwyta neu’n yfed.
  • Gallwch gael profion llif unffordd am ddim o fferyllfeydd (nid oes angen archebu) neu trwy archebu ar-lein i’w cael trwy’r post o GOV.UK.

Bydd y modd y byddwn yn ymddwyn a’r dewisiadau y byddwn yn eu cymryd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn pennu nifer yr achosion a fydd yn y sir.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i gadw Ceredigion yn ddiogel.

17/12/2021