Mae nifer yr achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu ledled y Sir ac rydym yn gweld trosglwyddiad cymunedol eang.

Mae cynnydd mewn achosion mewn sawl ardal dros yr wythnos ddiwethaf. Mae pryderon yn parhau am niferoedd yr achosion yn Aberystwyth a Llambed, lle mae dros 200 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth. Ni allwn fod yn hunanfodlon gan fod y feirws yn lledaenu ledled y sir, gan symud o’r gogledd i’r de. Mae hyn yn dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa newid.

Mae 7 o'r 9 ardal MSOA yng Ngheredigion dros 50 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth ac mae'r sir bellach wedi cyrraedd 116.9 i bob 100,000. Mae’r mwyafrif yr achosion yn dal i fod yn y grŵp oedran 20-29 oed. Niferoedd achosion ar gyfer pobl 25 oed ac iau yw 145.5 fesul 100,000 o'r boblogaeth ledled y Sir.

Derbyn y ddau ddos o'r brechlyn yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun ac eraill. Manteisiwch ar y cyfle i gael brechiad trwy fynd i'ch apwyntiad neu fynd i ganolfan cerdded i mewn. Mae clinigau brechlyn Cerdded Mewn yn galluogi trigolion Ceredigion i gael y brechlyn cyntaf neu ail heb apwyntiad ar amser addas.

Os oes gennych symptomau coronafeirws neu os ydych chi'n profi'n bositif, bydd angen i chi hunan-ynysu p'un a ydych chi wedi cael eich brechu'n llawn ai peidio. Os ydych chi'n cael eich adnabod fel cyswllt gan y Tîm Olrhain Cyswllt, rhaid i chi hunan-ynysu, hyd yn oed os ydych chi'n cael canlyniad prawf negyddol. Mae hyn yn golygu na allwch adael eich cartref ac ni allwch fynd i'ch gweithle.

Mae rheolau Llywodraeth Cymru ar waith o hyd, ac mae'n bwysig eu dilyn, gan gynnwys:
• Cadw pellter cymdeithasol;
• Golchi dwylo yn rheolaidd;
• Cyfyngu ar gyswllt cymdeithasol;
• Gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
• Hunan-ynysu ar unwaith gyda arwydd cyntaf unrhyw symptomau COVID-19 a threfnu prawf, gan adael y cartref yn unig i gael y prawf. Gallwch archebu prawf ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.

Nid yw'r pandemig drosodd ac mae'r feirws yn parhau i symud o amgylch ein sir. Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

23/07/2021