Bydd Ysgolion Uwchradd Ceredigion yn rhoi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun, 14 Rhagfyr 2020 a phob Ysgol Gynradd o ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr 2020. Rhwng 15 a 18 Rhagfyr, bydd pob disgybl Ceredigion yn cael eu haddysgu o bell.
Er y bydd safleoedd ysgolion yn cau ddiwedd y dydd, ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd ysgolion yn parhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel yn ddigidol.
Gwnaed y penderfyniad hwn gyda chefnogaeth lawn Undebau Prifathrawon ac Athrawon ac er budd pennaf y disgyblion, eu teuluoedd a staff ysgolion. Mae’r penderfyniad hwn yn lleihau’r potensial y bydd disgyblion yn gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig.
Yn ystod y dyddiau a’r wythnosau diweddar, cafwyd achosion cynyddol o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu oherwydd iddynt brofi’n bositif am y coronafeirws neu oherwydd iddynt gael eu hadnabod yn gysylltiadau i achos positif. Mae hyn wedi arwain at anawsterau staffio difrifol mewn llawer o’n hysgolion.
Mae’r Cyngor yn cydnabod gwaith caled staff ein hysgolion drwy gydol y flwyddyn, gan fynd i’r afael â’r heriau sydd wedi dod yn sgil y coronafeirws, yn ogystal â parhau i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar yr un pryd, boed hynny wyneb yn wyneb neu o bell. Rydym hefyd yn cydnabod bod ein disgyblion wedi gorfod addasu i’r ffyrdd newydd o weithio.
Bydd cymorth ar gyfer disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn parhau o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen a thrwy gydol gwyliau’r Nadolig.
Bydd cau ein hysgolion drwy roi’r gorau i addysgu wyneb yn wyneb yn galluogi teuluoedd i gyfyngu ar eu cysylltiadau â phobl o aelwydydd eraill yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Mae’r perygl o ddal y coronafeirws yn lleihau pan ydym yn cyfyngu ar ein cysylltiad ag eraill – mae’r coronafeirws yn ffynnu ar gyswllt pobl â’i gilydd.
Rydym yn cymell teuluoedd sy’n cyfarfod ag anwyliaid dros y Nadolig i ddefnyddio’r amser hwn i gadw’i gilydd yn ddiogel. Bydd y ffordd y byddwn yn ymddwyn a’r penderfyniadau a wnawn yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn penderfynu a allwn fwynhau Nadolig gyda’n teuluoedd.
Mae’r Cyngor yn cymell rhieni i gyfeirio eu plant i gael prawf os ydynt yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol:
- tymheredd uchel
- peswch newydd, parhaus
- colli’r synhwyrau arogli neu flasu, neu unrhyw newid i’r synhwyrau hynny.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol hefyd o symptomau cynnar eraill, megis pen tost, blinder a phoenau cyffredinol eraill yr ydym fel rheol yn eu cysylltu â’r ffliw.
Daliwch ati i chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau canlynol:
- Cadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr oddi wrth bobl eraill – y tu mewn a’r tu allan;
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd;
- Cyfyngwch eich cyswllt cymdeithasol;
- Gweithiwch gartref os yn bosibl;
- Gall aelwyd ffurfio ‘swigen’ gydag un aelwyd arall – nid oes hawl cyfnewid na newid y swigen ac ni ellir ymestyn y ‘swigen’ ymhellach nag un aelwyd;
- Gall pobl gyfarfod gydag eraill y tu allan i’w swigen mewn lleoliad rheoledig, megis tafarn neu fwyty (tan 6 p.m.) lle ceir protocolau llym, ond nid oes hawl i fwy na phedwar unigolyn gyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bo’n bosibl;
- Gwisgwch fasg wyneb pan fyddwch dan do mewn llefydd cyhoeddus, mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
- Hunan-ynyswch cyn gynted ag y profwch unrhyw symptomau COVID-19 a threfnwch brawf yn syth, gan adael eich cartref yn unig gael y prawf. Rhaid gwneud cais am brawf ar-lein neu drwy ffonio 119.
Mae gwybodaeth am y penderfyniad rhanbarthol i ddysgu o bell i’w ddarllen yma.
Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
10/12/2020