Bydd Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ciliau Aeron ar gau dros dro wrth i achos COVID-19 pellach gael ei gadarnhau. Mae’r ddau Grŵp Cyswllt allan o dri nawr wedi eu haffeithio ac felly, oherwydd diffyg staffio, bydd yr ysgol gyfan yn cau am gyfnod o amser.

Gofynnwyd i'r disgyblion yn y Grwpiau cyswllt sydd wedi ei effeithio i hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd yn yr ysgol. Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Mae'r Ysgol wedi cysylltu â'r holl rieni.

Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus newydd
  • colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.

Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.

03/12/2020