Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar draws Ceredigion yn ail-agor ar wahanol ddyddiadau rhwng 04 ac 17 Mehefin. Anogir trigolion i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai ei fod yn hanfodol – os na ellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os na ellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol.
Bydd rheolau newydd ar waith er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion yn ogystal â staff ar y safleoedd. Dyma’r rheolau newydd:
- Dim ond cerbydau sydd ag eilrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n eilrifau (e.e. 2,4,6,8,10,12 etc.).
- Dim ond cerbydau sydd ag odrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n odrifau (e.e. 1,3,5,7,9,11 etc.).
- Bydd cyfyngiadau llym o ran nifer y cerbydau sy’n gallu cael mynediad i’r Safle Gwastraff Cartref ar unrhyw un adeg.
- Gall uchafswm o ddau berson o’r un cartref adael y cerbyd er mwyn cael gwared â’r gwastraff a helpu ei gilydd gydag eitemau mwy neu drymach ar y safle; ni fydd unrhyw gymorth ar gael gan staff y safle i ddadlwytho unrhyw eitemau.
- Dim ond mewn cerbyd y bydd trigolion yn gallu cael mynediad i’r safle; bydd trigolion sy’n cyrraedd ar droed yn cael eu troi ymaith.
- Ni chaniateir ailddefnyddio eitemau – dim ond er mwyn cael gwared â gwastraff y caniateir i drigolion ddefnyddio’r safleoedd, ac ni chaniateir i drigolion fynd ag eitemau gyda nhw o’r safleoedd.
- Mae’r uchod yn ychwanegol at reolau presennol y safleoedd.
Cyn ymweld â Safle Gwastraff Cartref, dylai trigolion wneud y canlynol:
- Rhoi trefn ar eu gwastraff gartref cyn cyrraedd y safle.
- Bod yn barod ar gyfer ciwiau hir.
- Aros yn eu cerbydau ar bob adeg wrth giwio i gael mynediad i’r safle.
- Aros am gyfarwyddyd gan un o weithwyr y safle cyn mynd i mewn.
- Golchi eu dwylo’n drwyadl cyn ac ar ôl ymweld â’r safle; bydd angen i drigolion ddod â’u Cyfarpar Diogelu Personol eu hunain (e.e. menig, mygydau, feisorau) os ydynt yn dymuno eu gwisgo.
- Aros o leiaf 2m ar wahân i ddefnyddwyr eraill y safle a staff.
- Parchu a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill.
- Parchu a chadw at gyfarwyddiadau ac arweiniad staff y safle.
- Cael gwared â gwastraff yn y modd mwyaf cyflym a diogel â phosib cyn gadael y safle mewn modd trefnus.
- Cadw draw o’r safleoedd os oes ganddyn nhw neu unrhyw un yn eu cartref symptomau Covid-19 neu os ydynt yn cysgodi ar hyn o bryd.
Nid yw’r canlynol yn cael eu hystyried i fod yn deithiau ‘hanfodol’ i’r Safleoedd Gwastraff Cartref ar hyn o bryd:
- Mynd â bag o dorion o’r ardd neu doriadau glaswellt. Gellir dod o hyd i gyngor ar gompostio gartref ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-or-ardd/compostio/.
- Mynd â’r hen gwpwrdd, set o lestri te, peiriant gwnïo etc. sydd wedi bod yn eistedd yn y sied ers blynyddoedd.
- Mynd â hen eitemau diangen o ganlyniad i glirio’r sied neu’r atig.
- Hen ddillad o ganlyniad i glirio’r cwpwrdd.
Mae’n debygol y gall y rhan naill ai cael eu compostio, eu storio’n ddiogel gartref neu eu cludo i’r Safleoedd Gwastraff Cartref rywbryd yn y dyfodol pan mae’n debygol o fod yn gyfnod tawelach. Dylech ystyried yn ofalus a oes angen i chi ymweld â’r Safle Gwastraff Cartref cyn i chi geisio gwneud hynny.
Ni chaniateir i chi adael gwastraff y tu allan i gatiau’r safle – mae mesurau gwyliadwriaeth ar waith ar bob adeg ar bob safle.
Gwybodaeth a chyfarwyddiadau sy’n benodol i bob safle
Aberystwyth, Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ
Ailagor o ddydd Iau 4 Mehefin 2020
Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 -17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.
Os bydd y ciwiau’n ymestyn i brif ffordd drwodd Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio heibio’r pwynt hwnnw.
Aberteifi, Cilmaenllwyd, Penparc, Cardigan. SA43 1RB
Ailagor o ddydd Iau 11 Mehefin 2020
Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 – 17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.
Os bydd ciwiau’n ymestyn i gefnffordd yr A487, dylech adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio ar yr A487.
Dim ond o gyfeiriad Aberteifi y dylai trigolion gael mynediad. Dim troi i’r dde oddi ar yr A487 o gyfeiriad Penparc – ewch ymlaen at gylchfan Stryd y Priordy ac ewch yn ôl.
Llanbedr Pont Steffan Yr Ystâd Ddiwydiannol, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT
Ailagor o ddydd Iau 11 Mehefin 2020
Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 – 17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.
Os bydd ciwiau ar yr A485 neu’r A482, dylai trigolion adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio heibio’r pwynt hwnnw.
Llanarth, Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP
Ailagor o ddydd Mercher 17 Mehefin 2020
Bydd y safle ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul 09:00-17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.
Dim ond o gyfeiriad Llanarth y dylid cael mynediad at y safle, a dylid gadael y safle drwy deithio tuag at Bost Bach. Ni chaniateir mynediad i gerbydau sy’n ceisio cael mynediad o Bost Bach.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i drigolion Ceredigion am nodi’r uchod ac am barhau i ymdrin â’u gwastraff mewn modd cyfrifol a chyfreithlon sy’n helpu i gadw Ceredigion yn lân. Bydd y Safleoedd Gwastraff Cartref yn gallu parhau i aros ar agor cyn belled ag y bydd y cyhoedd yn cadw at reolau newydd y safleoedd a’r trefniadau sydd wedi’u rhoi ar waith. Arhoswch yn ddiogel. Achubwch fywydau.
Gellir dod o hyd i holl reolau newydd y safleoedd a gwybodaeth gyffredinol ar www.ceredigion.gov.uk/saflegwastraffcartref.
01/06/2020