Atgoffir cwsmeriaid a gweithwyr sefydliadau bwyd a diod i wisgo masg.

Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig hwn, ac mae hyn yn cynnwys staff sy’n gweithio mewn sefydliadau bwyd yn yr ardal.

Lle bynnag y bo hynny’n rhesymol, mae’n rhaid i bob aelod o staff wisgo masg ac mae’n rhaid iddynt wneud hynny bob amser mewn mannau cyhoeddus o dan do oni bai eu bod wedi’u heithrio rhag gwneud hynny. Mae Tîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cyflwyno sawl Hysbysiad Gwella Mangre i fusnesau am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o ran gwisgo masg. Gall methu â chydymffurfio â Hysbysiadau Gwella Mangre arwain at gau busnesau ac erlyn o bosibl.

Mae’n ofyniad cyfreithiol i wisgo masg ym mhob man cyhoeddus o dan do. Mae hyn yn cynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis, ac mewn mannau lle gweinir bwyd a diod, heblaw pan fyddwch yn eistedd i fwyta neu yfed. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed neu’n hŷn, gan gynnwys staff sy’n gweithio yn y mannau cyhoeddus o dan do hyn ac aelodau’r cyhoedd sydd yn y mannau hyn, oni bai bod ganddynt esgus rhesymol.

At ddibenion y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfyngiadau’r coronafeirws, nid yw mannau cyhoeddus o dan do yn cynnwys y mannau hynny y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt yn unig, maent hefyd yn cynnwys mannau y tu ôl i gownteri lle nad oes cyfyngiad ar lif yr aer rhwng y man cyhoeddus.

Ystyrir bod staff sy’n gweithio mewn man cyhoeddus o dan do ac nad ydynt yn gwisgo masg, a hynny heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i’r gofynion hyn.

Er mwyn diogelu eich hun, eich cwsmeriaid, eu teuluoedd a’n cymuned – gwisgwch fasg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae poster gorchudd wyneb ar gael i’w lawrlwytho o wefan y Cyngor.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. 

26/11/2020