Mae cynlluniau ar waith i greu parthau diogel i gerddwyr yng nghanol trefi Ceredigion.

Mae gan y rhan fwyaf o drefi'r sir gynllun stryd hanesyddol gyda throedffyrdd cul a thraffig yn rhedeg trwyddynt felly wrth i fusnesau ailagor ac wrth i ymwelwyr ddychwelyd i'r ardaloedd hyn nid oes digon o le i bobl gadw pellter diogel oddi wrth ei gilydd.

Bydd ein trefi’n edrych yn wahanol i sut y gwnaethant ychydig fisoedd yn ôl ond bydd newidiadau yn golygu y gall busnesau ailagor yn ddiogel tra hefyd yn sicrhau iechyd a diogelwch trigolion ac ymwelwyr.

Mae'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu gan swyddogion y cyngor yn cynnwys cau ffyrdd i draffig yn ystod y dydd i greu mwy o le i siopwyr gerdded yn ddiogel, yn enwedig gyda niferoedd mawr o dwristiaid a myfyrwyr lifo yn ôl i'r sir. Mae hefyd wedi'i anelu at helpu busnesau hefyd drwy greu mwy o le tu allan i fân-werthwyr a'r sector lletygarwch fasnachu. Mae'n bwysig bod y Cyngor yn gweithredu'n gyflym i roi trefniadau yn eu lle mor gyflym a phosib a bydd y trefniadau cychwynnol hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus.

I wneud hyn, bydd lleoedd i fasnachwyr yn cael eu hailddiffinio, bydd rhai ffyrdd ar gau i draffig, bydd palmentydd yn cael eu cymhennu trwy gael gwared â’r celfi stryd (ac eitemau eraill), gofynnir i ymwelwyr barcio i ffwrdd o ganol y trefi am ddim a chyflwynir arwyddion i helpu ymwelwyr i gynnal pellteroedd diogel.

Bydd y newidiadau hyn yn diogelu’r gymuned ac iechyd pobl wrth barhau i sicrhau y gall busnesau barhau i fasnachu.

Bydd rhagor o wybodaeth am y parthau diogel yn dilyn.

Diogelu Ceredigion.

Gellir dod o hyd i wybodaeth sy'n ymwneud â'r Coronafeirws ar wefan y Cyngor.

03/07/2020