Mae paratoadau ar waith i sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd pan fydd Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio’r Awdurdod Lleol yn cael ailagor yng Ngheredigion.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio yng Nghymru ailagor o ddydd Llun, 10 Awst 2020, ymlaen.

Ers dechrau’r cyfnod dan gyfyngiadau symud ym mis Mawrth eleni, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi pob mesur ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae’r Cyngor yn hynod o ddiolchgar am gydweithrediad trigolion y sir yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn unol â hyn, addaswyd cyfleusterau’r sir i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drigolion Ceredigion, a hynny trwy greu dau ysbyty maes yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi a Chanolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth.

Mae ffocws y Cyngor bellach yn troi at ailagor canolfannau hamdden y sir yn rhannol trwy lanhau’r cyfleusterau’n drwyadl, gosod arwyddion i sicrhau y cynhelir mesurau pellter cymdeithas a diogelwch y cyhoedd, ynghyd â chynnal gwiriadau iechyd a diogelwch. Yn unol â chwblhau’r mesurau hyn, bydd Canolfan Hamdden Aberaeron a Chanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn ailagor ddechrau Medi (dyddiad i’w gadarnhau), gan gynnig darpariaeth ar gyfradd lai i ddechrau. Bydd gwasanaethau hamdden hefyd yn cael eu cynnig yn Neuadd Chwaraeon Penglais a Phwll Nofio Aberteifi, gan y bydd Canolfan Hamdden Plascrug a Chanolfan Hamdden Aberteifi yn parhau yn ysbytai maes am y tro. Bydd disgwyl i ddefnyddwyr y gwasanaeth archebu ymlaen llaw, ac ni fydd y canolfannau hamdden yn derbyn arian parod.

Hoffem ddiolch i ganolfannau hamdden, campfeydd a phyllau nofio preifat yn yr ardal am eu cymorth parhaus ac am gydweithio â ni i sicrhau bod popeth ar waith cyn ailagor, gan fod diogelwch y staff, y cwsmeriaid a thrigolion Ceredigion o’r pwys mwyaf i ni.

Bydd rhagor o wybodaeth, ynghyd ag oriau agor a chanllawiau i aelodau Ceredigion Actif, yn cael eu rhyddhau maes o law. Cadwch olwg ar wefan y Cyngor am ddiweddariadau.

Diolch i chi am eich cymorth parhaus yn ystod

07/08/2020