Bydd ysgolion yng Ngheredigion yn dechrau gwneud trefniadau i ailagor cyn diwedd tymor yr haf i ‘Ddod i’r Ysgol a Dal ati i Ddysgu’.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, i alluogi ysgolion i ailagor ar 29 Mehefin 2020.

Bydd yr ysgolion ar agor i bob grŵp blwyddyn, ond gyda niferoedd llai ymhob ystafell ddosbarth ac amserau egwyl a gorffen wedi’u gwasgaru. Bydd plant yn cael cynnig sesiynau wyneb yn wyneb gyda’u hathrawon yn ystod y cyfnod hwn.

Er mwyn rhoi amser i ysgolion i gynllunio, bydd y ddarpariaeth Hwb Gofal Plant yn dod i ben ddydd Gwener 19 Mehefin 2020.

Mae’r Cyngor, trwy gyfrwng yr ysgolion, wedi anfon holiadur at bob rhiant/gofalwr i’w lenwi, a fydd yn hanfodol wrth i ni gynllunio i ailagor ysgolion. Mater i rieni/gofalwyr fydd penderfynu a ddylid anfon eu plant yn ôl i’r ysgol am y cyfnod hwn o bedair wythnos ai peidio. Bydd ysgolion yn parhau i gefnogi’r pob disgybl trwy gyfrwng gweithgareddau dysgu o bell.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd tymor yr haf yn cael ei ymestyn hyd nes 27 Gorffennaf 2020, gyda phythefnos o wyliau i ddisgyblion a staff yn ystod hanner tymor yr hydref.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi’r cyhoeddiad hwn ac yn rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau y cynhelir y safonau diogelwch gorau ar gyfer pawb a fydd ynghlwm. Gyda chymorth Swyddogion y Cyngor, mae pob ysgol unigol bellach yn gweithio ar eu cynlluniau priodol i ailagor eu hysgolion a chynnal asesiadau risg.

Caewyd pob ysgol yn y sir ar 20 Mawrth 2020. Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn y canolfannau gofal oddi ar hynny er mwyn darparu gofal plant i blant gweithwyr y gwasanaethau brys a gofal yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dyma rai cwestiynau cyffredin ac atebion i rieni/gofalwyr wrth iddynt benderfynu p’un ai i ddanfon eu plant nôl i’r ysgol o’r 29 Mehefin ymlaen: Cwestiynau Cyffredin.

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn ystod y coronafeirws ar gael ar wefan y Cyngor, ac mae diweddariadau cyson yn cael eu rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar eu gwefan

05/06/2020