Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau gweithredol ar y defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd a cholegau.

Mae'r canllawiau bellach yn nodi y dylai gorchuddion wyneb cael eu gwisgo:

  • ym mhobman y tu allan i'r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau
  • ar gludiant penodedig i'r ysgol a choleg ar gyfer blwyddyn 7 ac i fyny
  • gan ymwelwyr ag ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau, gan gynnwys rhieni a gofalwyr yn casglu plant

Yng Ngheredigion, mae eisoes yn ofynnol i ddisgyblion blwyddyn 7 a fyny wisgo masg ym mhob ardal y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac ar gludiant i'r ysgol.

Rhaid i rieni, gwarcheidwaid a pherthnasau wisgo gorchuddion wyneb, wrth ymweld â'r ysgol, ac mewn mannau gollwng a chasglu.

Bydd cynnal pellter cymdeithasol clir wrth gatiau'r ysgol hefyd yn lleihau'r risg o ledaenu COVID-19 ac yn gosod esiampl dda i ddisgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r canllawiau i gadw chi a'ch teulu mor ddiogel â phosibl, felly mae pob ymdrech i ddilyn y canllawiau hyn yn helpu i leihau unrhyw risg o ledaenu'r coronafeirws yn ein hysgolion a’r gymuned.

Mae rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau diogelwch ysgolion ar gael yma: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/plant-a-phobl-ifanc/

I weld yr holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynghylch y coronafeirws, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

 

27/11/2020