O ddydd Mawrth, 01 Rhagfyr 2020, mae dull talu am barcio heb arian parod wedi cael ei gyflwyno yn rhan fwyaf o feysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y taliadau yn parhau ar gyfradd 2019/2020.

Ni fydd taliadau yn berthnasol ym meysydd parcio'r Cyngor yn Aberteifi am y tro o ganlyniad i’r gyfradd heintio leol o COVID-19 sydd yno ar hyn o bryd.

Mae’r taliadau parcio wedi cael eu hatal ledled Ceredigion oddi ar fis Mawrth 2020 o ganlyniad i COVID-19 a’r cyfnod clo cenedlaethol. Mae cyflwyno dull talu am barcio heb arian parod yn un ffordd o leihau’r risgiau o drosglwyddo COVID-19 sy’n gysylltiedig â thaliadau ag arian parod.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd yn rhithiol ar 01 Rhagfyr 2020, trafodwyd deiseb yn erbyn ailgyflwyno ffioedd parcio. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr parcio, gan gynnwys pob Awdurdod Lleol sy’n ffinio, naill ai wedi codi tâl yn llawn neu’n rhannol trwy gydol cyfnod COVID-19 tra na fu unrhyw daliadau yng Ngheredigion am fwy na 8 mis. Mae’r golled o ran incwm i Geredigion wedi bod yn sylweddol ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fyddant yn gwrthbwyso colledion parhaus. O ganlyniad, mae’r sefyllfa yn anghynaliadwy ac, am hynny, roedd yn rhaid ailgyflwyno taliadau parcio.

Bydd parcio am ddim yn cael ei ddarparu ddydd Sadwrn 05, 12 a 19 Rhagfyr 2020 ymhob maes parcio talu ac arddangos y Cyngor yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

 

02/12/2020