Mae tafarn yn Aberystwyth wedi cael gofyniad i wella'r mesurau y mae’n eich chymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â choronafeirws ar ei safle.

Rhoddwyd yr hysbysiad gwella i dafarn y Vale of Rheidol ar Ffordd y Môr, Aberystwyth, ar ôl ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.

Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gwella Safle, a gyflwynir o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, i’r dafarn ar Ffordd y Môr, Aberystwyth, ddydd Mercher 7 Hydref 2020. Yn ystod eu hymweliad, gwelodd y swyddogion nad oedd mesurau digonol wedi cael eu cymryd i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid, i gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb, i ddarparu gwybodaeth i'r rheini yn yr adeilad, ac i gasglu gwybodaeth gyswllt gan yr holl gwsmeriaid. Mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cymryd camau i sicrhau bod seddi'n cael eu symud a bod eu defnydd yn cael ei reoli i sicrhau bod cwsmeriaid mewn gwahanol aelwydydd estynedig yn eistedd o leiaf ddau fetr oddi wrth ei gilydd. Hefyd, bod cwsmeriaid yn cael gwybod am y cyfyngiadau o ran cwrdd â phobl eraill y tu mewn, y dylai staff wisgo gorchuddion wyneb, ac y dylid casglu gwybodaeth gyswllt yn ychwanegol at unrhyw ddefnydd a wneir o ap COVID-19 y GIG, nad yw, ynddo’i hun, yn cofnodi manylion cyswllt cwsmeriaid.

Mae'n ofynnol i'r dafarn roi'r mesurau ar waith erbyn dydd Gwener 9 Hydref 2020. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gyflwyno Hysbysiad Cau Safle, erlyniad, neu'r ddau.

07/10/2020