Bydd pob disgybl ysgol uwchradd Ceredigion yn derbyn dau orchudd wyneb ailddefnyddiadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu a darparu dau fasg ailddefnyddiadwy i bob plentyn ysgol uwchradd.
Dylid gwisgo masg i helpu i ddiogelu’r disgybl ac eraill, ochr yn ochr â dilyn mesurau eraill, er enghraifft cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd.
Yn yr ysgol, bydd y disgyblion yn cael cyfarwyddyd o ran pryd y dylid gwisgo masg. Bydd hyn yn digwydd pan fydd y disgyblion y tu allan i'w grŵp cyswllt a lle bod cynnal pellter cymdeithasol yn heriol.
Bydd disgyblion yn derbyn eu masgiau drwy’r eu hysgolion dros y bythefnos nesaf.
06/10/2020