Mae’r cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, wedi newid o ddoe (22-12-20) ymlaen. Y cyngor nawr yw na ddylai’r rhai yn y grŵp hwn fynd i’r gwaith na’r ysgol y tu allan i’w cartref.

Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobl eraill, neu swydd lle mae unigolion, am gyfnodau hir, yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach.

Bydd llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael ei anfon i gadarnhau’r cyngor hwn ond bydd yn cymryd peth amser i gyrraedd pobl oherwydd cyfnod y Nadolig. Gellir defnyddio’r llythyr hwn fel tystiolaeth i hawlio tâl salwch statudol.

Dywed Llywodraeth Cymru, “Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail nifer o ffactorau ond y dylanwad diweddaraf oedd y twf sylweddol yn y cyfraddau heintio, o bosibl yn sgil yr amrywiolyn newydd o’r coronafeirws. Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd, gyda niferoedd cynyddol o gleifion mewn ysbytai. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o’r lefelau rhybudd ledled Cymru.”

Mae’r rheoliadau sydd mewn grym ar lefel 4 https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4 eisoes yn berthnasol i unigolion yn y grŵp hwn ac felly rhaid iddynt aros gartref cymaint â phosibl. Fodd bynnag, caiff y grŵp barhau i fynd allan i ymarfer corff, a hefyd i fynd i apwyntiadau meddygol. Rhaid inni gofio’r niwed y gall ynysu am gyfnodau hir ei achosi. Felly, caiff y rhai yn y grŵp hwn barhau i fod yn rhan o swigen gefnogaeth, cyn belled â’u bod yn cymryd gofal.

Yn y datganiad ddoe, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, “Rydym wedi’i gwneud yn glir mai’r dewis mwyaf diogel i bobl yn y grŵp hwn yw peidio â bod yn rhan o Swigen Nadolig. Fodd bynnag, os byddant yn dewis gwneud hynny, dylent ddilyn y cyngor ar ein gwefan https://llyw.cymru/cyngor-y-nadolig-ar-gyfer-pobl-oedd-yn-gwarchod sy’n cynnwys lleihau cysylltiadau cymaint â phosibl, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau sydd â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebau yn rheolaidd a chadw 2 fetr oddi wrth bobl eraill.”

Mae rhestr o adnoddau defnyddiol yng Ngheredigion, gan gynnwys rhestr o fusnesau sy’n dosbarthu prydau bwyd, grwpiau cymorth cymunedol a gwybodaeth am bresgripsiynau i'w gweld yma: Rhestr o Adnoddau yng Ngheredigion - Cyngor Sir Ceredigion

Mae rhestr o grantiau a chymorth i unigolion mewn angen i'w gweld yma: https://www.ceredigion.gov.uk/media/7074/grantiau-a-chymorth-i-unigolion-mewn-angen.pdf

23/12/2020