Bydd yr amser y mae’n rhaid i bobl hunan-ynysu yn cael ei leihau o 14 niwrnod i ddeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau y cyfnod hunan-ynysu i ddeng niwrnod o ddydd Iau 10 Rhagfyr.

Mae’r penderfyniad wedi cael ei gymeradwyo gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ac mae’n seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y tebygolrwydd o fod yn heintus fel cyswllt ar ôl deng niwrnod.  

Bydd y rheolau newydd ar hunan-ynysu a’r cwarantin yn berthnasol i: 

  • bobl sydd wedi derbyn canlyniad positif i brawf COVID-19
  • pobl sydd â symptomau COVID-19 sy’n aros am ganlyniad prawf, neu sydd heb eu profi, ac nad oes yn rhaid iddynt dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, sy’n gorfod aros gartref am y cyfnod hunan-ynysu priodo
  • pobl sy’n byw ar aelwydydd gyda rhywun sy’n dangos symptomau allai fod wedi eu hachosi gan COVID-19, neu sydd wedi derbyn canlyniad positif am brawf COVID-19
  • cysylltiadau agos achosion positif o COVID-19
  • teithwyr sy’n dychwelyd o wlad sydd heb ei heithrio.

Yn dilyn y cyngor hwn, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi newid Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Gellir gweld rhestr wedi'i diweddaru o wledydd a thiriogaethau eithriedig ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae hunan-ynysu a cwarantin yn chwarae rhan allweddol wrth atal y coronafeirws rhag lledaenu. Cofiwch, hunan-ynyswch cyn gynted ag y gewch chi unrhyw symptomau. Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Byddwch yn ymwybodol o arwyddion cynnar megis pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy'n teimlo'n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Medrwch archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Ceir gwybodaeth pellach am y Coronafeirws a Cheredigion ar dudalennau Coronafeirws y Cyngor.

Diolch am ddilyn y rheolau a chwarae eich rhan. Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

10/12/2020